Mae’r cerflunydd o Langrannog, Sebastien Boyesen, bron â gorffen y gwaith o greu cerflun i un o ferched mwya’ hynod y 19eg ganrif – yr athro, y golygydd, a’r morwr Sarah Jane Rees, a oedd yn cael ei hadnabod wrth ei henw barddol, Cranogwen. Fe fydd y cerflun clai yn mynd i ffowndri yn y gogledd mis nesaf ac yn y pen draw yn cael ei lunio mewn efydd, i sefyll mewn gardd newydd yn edrych tuag at ei bedd yn yr eglwys ym mhentre Llangrannog lle cafodd Cranogwen ei magu.