Does yna ddim amheuaeth mai antur clwb pêl-droed Wrecsam yw’r pwnc llosg ym mhêl-droed Cymru ar y funud. Mae’r clwb wedi cael sylw mawr eto’r wythnos yma ar ôl perfformiad arwrol yn erbyn Sheffield United. Ac nid dim ond o Brydain mae’r sylw yn dod. Mae’n teimlo fel bo’r byd pêl-droed i gyd yn adnabod yr enw erbyn hyn.