Fel mae ambell i ddarllenwr brwd o’r cylchgrawn yma wedi sylweddoli, rwyf wrth fy modd yn camu i mewn i ddadleuon sensitif am bob math o bynciau llosg.

Megis annibyniaeth, hiliaeth a chrefydd (‘Boring, boring!’ meddai Tomos Richards o Ferthyr!)

Pleser o’r mwyaf, felly, yw neidio i mewn i’r ddadl am hawliau pobl trans, megis Isla Bryson.