Roedd yna adeg pan oedd nosweithiau thematig yn boblogaidd ar y teledu, pan fyddai sianel yn neilltuo noson gyfan o ddarlledu i raglenni ar un pwnc penodol.

Yn gynhyrchydd cymharol ifanc yn BBC Cymru, fe neidiais innau ar y ffasiwn – a chynhyrchu noson o raglenni o’r enw ‘O’r Galon’ ar gyfer S4C, a ddarlledwyd ar noson Santes Dwynwen.

Yn noson a enillodd wobr BAFTA Cymru i’r tîm yn y pendraw, y nod oedd dathlu cariad yng Nghymru, ac roedd hi’n noson lawn rhamant a sentimentalrwydd.