Mae yna ran ohona i eisiau danfon cerdyn. Eisiau mynd allan i’r siop a dewis yn ofalus pa un yn union a fyddai’n gweddu orau. Llun o dusw o lilis, y blodau’n agor yn fawr a phowld uwchben ysgrifen mewn italics, ‘Mewn Cydymdeimlad’ syber? Neu ddarlun o fachlud, symbol o ddiwedd dydd ar ryw draeth tlws yn rywle, trosiad anghynnil am golled a dyfodiad y nos mawr du?