Chwalwyd y wal dalu ar gyfer y golofn ganlynol, i bawb gael blasu arlwy cylchgrawn Golwg…

Os nad ydych wedi bod yn cysgu am y chwe mis diwethaf, neu wedi bod ar ymweliad i’r blaned Mawrth, fe fyddwch wedi gweld fod ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG aka yr NHS) ar fin dymchwel.

Mae’r GIG, wrth gwrs, yn un o’n trysorau. Un o’r pethau mwyaf gwerthfawr ym Mhrydain – a rhywbeth y gallwn oll fod yn falch ohono.

Ummm… na.

Y gwir amdani yw nad yw’r GIG yn addas nac yn gweithio’n iawn. Efallai ei fod yn gweithio’n dda pan lansiwyd y system gan Aneurin Bevan yn 1948 – ond erbyn hyn, mae’n bell o allu darparu’r math o wasanaeth sydd ei angen arnom.

Wedi’r cyfan, os mai’r GIG oedd y system iechyd orau yn y byd, oni fyddech yn disgwyl i wledydd eraill fabwysiadu’r un fath o drefn? Nid yw hynny wedi digwydd.

Rwy’n ofni, felly, pan oeddem oll yn sefyll wrth ein drysau yn ‘clapio er mwyn diolch i’r GIG’, nid dyna oeddem yn ei wneud.

Yn hytrach, roeddem yn clapio er mwyn diolch i’r meddygon, y nyrsys a’r staff eraill oedd yn gweithio’n galed yn ystod Covid. Nid ydym yn caru’r GIG bellach – mae 71% ohonom yn meddwl ei fod yn darparu gwasanaethau gwael.

Rydym yn gwybod fod y rhestr aros am driniaethau wedi tyfu’n uwch na saith miliwn. Rydym yn clywed yn ddyddiol am ambiwlansys yn parcio wrth ddrysau’n hysbytai – yn methu trosglwyddo’r cleifion i’r ysbytai gorlawn – er mwyn gadael i achub y claf nesaf.

Ond prin yw’r ymwybyddiaeth o ambell i ffaith arall:

Er enghraifft, mae gwariant Prydain ar iechyd, fel canran o’i GDP, yn un o’r uchaf ymhlith yr economïau datblygedig. Yn uwch na ni mae’r Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen a Ffrainc.  Mae yna 15 gwlad sy’n gwario llai na ni.

Ond, yn anffodus, o ran llwyddiannau’r gwasanaeth, rydym bron ar waelod y gynghrair. Dim ond yr Unol Daleithiau sy’n waeth na ni (ac mae hynny’n adlewyrchu’n rhannol y ffaith fod gwariant y pen y wlad honno gymaint yn uwch na’n gwariant ni).

Dyma i chi ambell i enghraifft o ba mor wael yw ein system iechyd:

Mae 50,000 ohonom yn marw yn flynyddol o farwolaethau y gellid bod wedi eu trin.

Mae 42% ohonom yn marw o fewn 30 diwrnod o ddioddef strôc – o’i gymharu â 22% ym Mhortiwgal. Ac, o’i gymharu â Phrydain, mae’r gobaith o guro canser llawer yn uwch yn Awstralia, Canada, Norwy, Denmarc, yr Iwerddon a Seland Newydd.

Nid yw’r system yn gweithio. Mae’r GIG yn rhy fawr – heb unrhyw reswm i wella’r gwasanaeth. Ar yr un pryd, nid oes digon o gymhelliad i ni drigolion gadw’n iach.

Teg edrych tuag Oz

Ar draws y byd mae yna enghreifftiau o systemau sy’n darparu gwasanaethau gwych – ond er mwyn eu hefelychu fe fydd angen i ni gael sgwrs onest am ffaeleddau’r GIG a manteision systemau eraill.

Nid yw hyn yn bosib i’r Ceidwadwyr ei wneud – maen nhw yn cael eu croeshoelio gan yr etholwyr am ‘ladd y GIG’. Mae’n haws i’r Blaid Lafur i wneud hyn – a da yw gweld fod Wes Streeting (yr Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol) wedi dechrau sgwrs gall am y broblem.

Mae nifer yn argymell system debyg i Awstralia, lle cynigir manteision treth i’w thrigolion i’w helpu i brynu yswiriant iechyd (gyda system debyg i’r GIG ar gyfer y rheini sy’n methu fforddio yswiriant). Erbyn hyn mae yna 17,000 polisi gwahanol ar gael, gan 26 cwmni gwahanol. £2,000 yw’r gost i berson 60 mlwydd oed. O ganlyniad mae 10% yn fwy yn cael ei wario ar y system iechyd, ond mae Awstralia yn ail yng nghynghrair iechyd y byd – ac yn gyntaf yn y gynghrair o ran trin canser.

Mae’r system yn cynnig cymhelliad i bobl aros yn iach (er mwyn lleihau cost yr yswiriant) ac, yn bwysicach, mae’n cynnig cymhelliad i’r ystod o ddarparwyr gwasanaethau iechyd i wella’r rheini sy’n sâl ac i wario’r arian yn gall ac yn effeithiol. Mae modd i gleifion chwilio am y darparwyr gorau ac mae hynny’n creu cystadleuaeth sy’n gwella’r gwasanaeth drwyddi draw.

A, gyda llaw, nid yw’n ddefnyddiol ystyried yr Unol Daleithiau fel yr unig enghraifft o’r hyn sy’n digwydd wrth fabwysiadu system yswiriant. Mae honno’n enghraifft wael – ac mae yna ddigon o systemau gwych y gellir eu hystyried, megis Awstralia.

Felly dere, Eluned Morgan, dyma gyfle i ti arwain sgwrs onest a chall am ein Gwasanaeth Iechyd. Wfft i’r GIG sydd ddim yn haeddu ein harian bellach – na’i statws fel buwch sanctaidd.

Ein hiechyd ni, y Cymry, yw dy flaenoriaeth.

Nid gwleidyddiaeth.

Cer amdani!