Am unwaith, mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd yn cael ychydig o sylw oherwydd ei gyfri’ trydar. Sylw anffafriol, ond fel yna mae hi…

“Mae’r Rhyfel Diwylliannol yn gweithio trwy greu consensws anghydnaws o ffyrnig o amgylch materion pitw (y frenhiniaeth, cerfluniau, comedi teledu ac yn y blaen) ac wedyn mwstro’r gynghrair honno y tu cefn i achosion economaidd (iechyd preifat, deddfau gwrth-undebau, toriadau trethi ac yn y blaen)… Pa un ai ydi Davies [Andrew RT] yn sgrifennu’r stwff yma ei hunan neu’n talu rhywun i wneud hynny, does yna fawr ddim yn ei gynnyrch sy’n cynnig dim adeiladol o ran llywodraethu Cymru. O ran tôn, mae’n gwawdio yn hytrach na holi neu ysbrydoli, ac mae hynny’n arwydd teg o pa mor dda y mae’n ystyried ei obeithion…” (Ben Wildsmith, nation.cymru)

A rhyfel diwylliannol yn troi’n rhywbeth mwy sydd yn yr Alban wrth i Lywodraeth San Steffan ddweud y byddan nhw’n atal deddfwriaeth o Gaeredin sy’n ei gwneud hi’n haws i bobol benderfynu ar eu rhywedd eu hunain…

“Does dim cynsail i hyn ac mae’n golygu ymosodiad llawn ar y setliad datganoli. Mae’n chwyddo’r ddadl mewn modd enbyd ac yn cynyddu’r hyn sydd yn y fantol… mae’n cael ei ddisgrifio’n ymosodiad ar Blaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, ond mewn gwirionedd mae’n ymosodiad ar Senedd yr Alban lle cafodd y ddeddfwriaeth gefnogaeth ar draws y pleidiau ar ôl blynyddoedd o oedi, gwelliannau a thrafodaeth… dyma ymosodiad ar ddemocratiaeth ac mae angen archwilio pen unrhyw un sy’n credu bod hyn yn ymwneud ag Alister Jack [Ysgrifennydd yr Alban] neu Rishi Sunak yn amddiffyn lleiafrifoedd. Mae’r hyn a alwyd yn ‘un o seneddau datganoledig mwya’ pwerus y byd’ yn cael ei darnio.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)

Yn ôl Paul Goodman ar wefan drafod y Ceidwadwyr, conservativehome.com, mae’r cwestiwn am achosi problemau i Lafur hefyd ac i’w harweinydd, Keir Starmer…

“Bydd ei gefnogaeth i hunan-nodi yn cael cefnogaeth ymhlith rhai pleidleiswyr: pobol ifanc, pleidleiswyr Llafur a menywod yn benodol, yn ôl [y polwyr] YouGov. Ond mae hanes y Mesur Diwygio Cydnabyddiaeth Rhywedd [y ddeddf yn yr Alban] yn awgrymu mai un peth yw barn pleidleiswyr am gynnig haniaethol a pheth arall yw eu barn am fesurau penodol, wrth i’r cwestiynau allweddol ddod yn amlwg. Yn ôl YouGov, mae pleidleiswyr Gadael [yr Undeb Ewropeaidd] ymhlith y lleia’ tebyg o gydnabod bod gan bobol traws bellach statws rhywedd newydd.”

Yn Iwerddon, lle mae rhyfel diwylliannol go-iawn wedi bod ar droed ers canrifoedd ac yn parhau, mae’r drafodaeth am uno’r wlad yn parhau. Er bod rhai o’r ochr Brotestannaidd yn cydnabod y posibilrwydd, maen nhw’n dweud y byddai’n rhaid i rai pethau newid i groesawu’r boblogaeth newydd. Ac mae Mick Fealty ar sluggerotoole.com yn cytuno…

“Os bydd ynys wleidyddol unedig yn digwydd byth, bydd yn codi o synthesis syml, tyner yn datblygu’n hael a graddol. Os yw ffolineb gwaedlyd y 50 mlynedd diwetha’ wedi dysgu rhywbeth defnyddiol i ni, does bosib mai hynny yw fod gwthio’r mater yn galed yn wirioneddol wrth-gynhyrchiol.”