Mae Golwg wedi dymchwel y wal dalu er mwyn i bawb gael mwynhau’r erthygl ganlynol, sy’n ymddangos yn y cylchgrawn yr wyrhnos hon…
O streic y gweithwyr iechyd i ganlyniadau’r Cyfrifiad a stâd rygbi yng Nghymru, bu cyn-Brif Weinidog Cymru yn sgwrsio yn helaeth gyda Huw Bebb…
Er ond yn 55 oed, mae gan Carwyn Jones ddegawdau lu o brofiad gwleidyddol, a hynny er iddo gamu o’r llwyfan politicaidd ers cwpwl o flynyddoedd.
Bu yn Brif Weinidog Cymru ac Arweinydd Llafur Cymru rhwng 2009 a 2018, ac yn Aelod o’r Cynulliad/Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999 a 2021.
Gwasanaethodd fel Gweinidog yn barhaol o 23 Chwefror 2000 hyd at ei ymddeoliad fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018 – cyfanswm o 6,867 diwrnod, gan ei wneud y Gweinidog Llafur a wasanaethodd hiraf yn hanes gwledydd Prydain.
Ers iddo adael Bae Caerdydd yn 2021, mae wedi bod yn Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ond mae yn parhau i sylwebu ar wleidyddiaeth, ac yn fodlon trafod materion y dydd.
Mae’n debyg mai’r Gweinidog yn Llywodraeth Lafur Cymru sydd o dan fwyaf o bwysau ar hyn o bryd yw’r Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd.
Na, dyw streic y gweithwyr iechyd yng Nghymru ddim agosach at gael ei datrys.
Fe geisiodd Llywodraeth Cymru ddod â’r anghydfod i ben gyda chynnig o daliad untro yr wythnos diwethaf, ond cafodd hwnnw ei wrthod ar ei union.
Cyn hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff yn y Gwasanaeth Iechyd, oedd tua 15% yn is na gofynion yr undebau.
Does dim modd i Lywodraeth Cymru gynnig 19% o godiad cyflog oni bai bod cyllid ychwanegol yn dod o Lundain, medd Eluned Morgan.
Ac yn ôl Carwyn Jones, mae “Eluned Morgan yn hollol iawn”.
“Wrth gwrs, rydyn ni mewn sefyllfa lle mae’r rhan fwyaf o arian yn dod o Lundain.
“Dw i’n gallu cydymdeimlo gyda sefyllfa Eluned a Llywodraeth Cymru.
“Dw i’n siŵr y byddai hi a phawb arall yn hoffi cael mwy o opsiynau.
“Ond nid felly mae hi oherwydd yr hyn sy’n digwydd yn Llundain.
“A dw i’n gwybod, o edrych ar y ffigyrau, bod codi trethi [incwm yng Nghymru] ddim yn codi llawer o arian. Ac wrth gwrs mae hynny yn tynnu’r cyfrifoldeb o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Y nhw [yn Llundain] sydd â’r cyfrifoldeb i sicrhau bod yna ddigon o arian ar gael i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid felly y mae hi ar hyn o bryd.”
Y Cyfrifiad a’r iaith Gymraeg
Mae yna “gyfrifoldeb arnom ni gyd” i sicrhau nad yw’r iaith Gymraeg yn edwino, yn ôl Carwyn Jones.
Datgelodd Gyfrifiad 2021 fod canran y bobol sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o 19% i 17.8% dros y degawd diwethaf. Dyma’r ganran isaf i gael ei chofnodi erioed.
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, dywedodd 538,300 o bobl tair oed neu’n hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 562,000 yn 2011.
Ond faint o gyfrifoldeb y mae’n rhaid i’r Blaid Lafur, ac yn wir Carwyn Jones, ei gymryd am y cwymp hwn?
Wedi’r cyfan, fe gyhoeddwyd y targed i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ystod cyfnod Carwyn yn Brif Weinidog.
“Wel, mae’n rhaid i ni gofio wrth gwrs mai nid dim ond ar y Blaid Lafur y mae yna gyfrifoldeb, mae yna gyfrifoldeb ar Blaid Cymru hefyd, a dw i ddim yn dweud hynna er mwyn gwylltio neb,” meddai.
“Dw i’n credu bod yna lot fawr wedi cael ei wneud dros y ddegawd ddiwethaf i helpu’r iaith, ond yn amlwg bod rhywbeth ddim yn gweithio.
“A dw i ddim yn dweud hynny fel pwynt gwleidyddol achos dw i ddim yn un sy’n hoffi gwneud hynna gyda’r iaith.
“Mae’n od, achos os ydych chi’n edrych ar ffyrdd eraill o gyfrif y nifer o siaradwyr Cymraeg, yr arolwg cenedlaethol, er enghraifft, mae hwnnw yn dangos bod yn 300,000 yn fwy o siaradwyr Cymraeg nag sydd wedi ei ddangos yn y Cyfrifiad.
“Mae’n anodd dros ben i ofyn i bobol: ‘A ydych chi’n siarad Cymraeg?’
“Ym mha ffordd ydych chi’n mesur pa mor rhugl ydych chi yn y Gymraeg?
“Dw i’n credu fod rhai pobol yn rhoi eu hunain lawr fel pobol sydd ond yn deall Cymraeg, er eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg yn iawn.
“Felly mae e’n anodd gwybod beth yn gwmws sydd wedi digwydd, ond mae’n rhaid bod yn gyfrifoldeb arnom ni gyd dw i’n credu, pob plaid, i sicrhau ein bod ni’n ffeindio ffordd ymlaen i dyfu’r niferoedd sydd ddim ond yn siarad yr iaith, ond gyda’r hyder i ddweud eu bod nhw’n siarad yr iaith.
“Dw i’n credu bod hwnna yn dal i fod yn broblem gyda phobol.”
“Rhaid i ni fod yn uchelgeisiol”
Mae targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg wedi dod o dan chwyddwydr yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad, gyda rhai’n awgrymu ei fod bellach yn un afrealistig.
Fodd bynnag, gwrthod yr awgrym hwnnw mae Carwyn Jones.
“Ma’ fe’n realistig, mae’n rhaid i ni fod yn uchelgeisiol,” meddai.
“Ddylen ni ddim lleihau’r targed o achos un set o rifau.
“Felly bydden i’n dweud bod angen cadw at y targed, a dw i’n gobeithio y bydda i yma i’w weld e yn 83 mlwydd oedd.
“Rhaid i ni gadw at y targed a pheidio cael ein digalonni gan yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar.
“Ddylen ni ddim cymryd ffigyrau’r Cyfrifiad fel efengyl achos mae yna ffyrdd eraill o gyfrif nifer y siaradwyr Cymraeg.
“Ond mae e’n holl bwysig ein bod ni’n canolbwyntio nid yn unig ar sut y gallwn ni ddenu mwy o siaradwyr, ond hefyd i gadw’r siaradwyr sy’n gallu siarad Cymraeg a deall Cymraeg ac yn cyfrif eu hunain fel siaradwyr Cymraeg.”
Carwyn ar y teledu
Ar hyn o bryd mae Carwyn Jones i’w weld ar S4C yn cyflwyno rhaglen am rygbi o’r enw Y Gêm yn y Gwaed, sydd ymlaen ar nosweithiau Mawrth am naw.
Ac yntau wedi ymddiddori yn y gamp ar hyd ei oes, roedd yn awyddus i greu rhaglen yn edrych nid yn unig ar hanes y gêm yng Nghymru, ond ar ochr gymdeithasol y gêm.
Yn ystod y rhaglen mae Carwyn Jones yn cyfarfod â chwaraewyr o ddoe a heddiw, cefnogwyr, haneswyr a sylwebwyr yn y gobaith o greu darlun byw rygbi yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd.
Ymhlith y rhai sy’n cyfrannu mae’r dyfarnwr Nigel Owen, capten Cymru Ken Owens, a chyn-seren rygbi Cymru, Jonathan Davies.
Yr “anrhydedd” fwyaf i Carwyn Jones oedd bod y diweddar Eddie Butler wedi cytuno i ysgrifennu’r sgript ar gyfer y rhaglen.
Bu farw’r cyn-chwaraewr, newyddiadurwr a sylwebydd chwaraeon ar 15 Medi 2022.
“Roedd Eddie yn golled enfawr wrth gwrs, nid yn unig i rygbi yng Nghymru ond i gymdeithas yng Nghymru.
“Roedd Eddie yn gallu ysgrifennu mor dda ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod e’n anrhydedd i mi pan wnaeth e gytuno i ysgrifennu’r sgript.
“Wedyn roedd yna her wrth gwrs i’w drosglwyddo a’i ddehongli fe, beth oedd ei wedi ei ysgrifennu yn Saesneg er mwyn mod i’n gallu cadw’r un steil yn Gymraeg.
“Felly roedd hwnna yn her, ond dw i wedi bod yn lwcus dros ben. Roedd criw profiadol dros ben yno i fy helpu i.
“Roedd y sylfaen yna er mwyn creu’r gyfres.
“Fy syniad i oedd edrych ar hanes cymdeithasol rygbi yng Nghymru.
“Mae lot fawr wedi cael ei ysgrifennu a’i ddarlledu am hanes y gêm ac yn siarad gyda chwaraewyr am y gêm.
“Ond beth yr oeddwn i eisiau edrych arno oedd beth oedd yn mynd ymlaen yn y gymdeithas falle yn ystod un o’r gemau mawr. Gêm Seland Newydd 1953, y 1970au. Beth oedd yn digwydd yng nghymdeithas oedd yn effeithio’r gêm ei hun?
“Beth oedd yn digwydd ym mywydau’r bobol oedd yn gwylio’r gemau hyn? Pa mor bwysig oedd rygbi iddyn nhw? A faint o ddylanwad oedd y pwysau cymdeithasol oedd yn digwydd, y dirwasgiad yn y 1930au ac yn y blaen, yn ei gael ar y chwarae.
“Beth oedden ni moyn [gyda’r gyfres] oedd wrth gwrs apelio at bobol sydd â diddordeb yn y gêm, ond hefyd pobol sydd â diddordeb mewn hanes, a dw i’n gobeithio mai dyna sydd wedi digwydd.”
Problemau Undeb Rygbi Cymru
Mae Carwyn Jones yn cydnabod bod yna broblemau yn y ffordd mae rygbi’n cael ei redeg yng Nghymru ar hyn o bryd, ond yn mynnu nad yw “pethau mor wael lle nad oes modd i adfer y sefyllfa”.
Ers sawl blwyddyn bellach bu pedwar rhanbarth rygbi proffesiynol y wlad yn wynebu trafferthion ariannol, a chlybiau llai yn ei chael yn anodd goroesi hefyd.
“Mae’n amlwg bod yna broblemau ac mae’n amlwg fod yna waith angen ei wneud i ddatrys y problemau hynny,” meddai.
“Dw i’n credu falle yn y gorffennol fod yna or-bwysleisio wedi bod ar y gêm broffesiynol, ac wrth gwrs mae hwnna yn bwysig oherwydd mai dyna beth sy’n dod ag arian i’r gêm.
“Ond dw i’n credu bod yna rwyg wedi tyfu rhwng y ddwy gêm ac mae angen i hynny gael ei ddatrys.
“Dw i ddim yn credu bod pethau mor wael lle nad oes modd i adfer y sefyllfa, ond yn amlwg mae yna waith i’w wneud.”