I nodi chwedeg mlwyddiant Protest Pont Trefechan, mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu taith gerdded o amgylch Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 4 Chwefror 2023. Bydd y daith yn ymweld â lleoliadau arwyddocaol yn hanes y mudiad (gyda siaradwr gwadd ym mhob lleoliad) gan gychwyn am 10 ar y bont ei hun.