Mae’r wal dalu wedi ei chwalu ar gyfer yr erthygl hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn cyfredol…
Mae cynhyrchydd teledu yn helpu pobol i fwyta yn well er mwyn teimlo’n well, cysgu’n well a chael mwy o egni…
Cymryd amser i fwyta a choginio ydy’r camau symlaf all pawb eu cymryd i gael y gorau gan eu bwyd, yn ôl cynhyrchydd teledu sydd wedi arallgyfeirio.
Yn ddiweddar wnaeth Angharad Griffiths gymhwyso yn Faethegydd, a bellach mae hi yn cefnogi pobol brysur gydag iechyd y perfedd, lefelau egni a’r menopos.
Drwy ei Chlinig Maeth, mae Angharad, sy’n byw ym Methesda, Gwynedd, yn gweithio gyda chleientiaid i greu cynllun iechyd unigol gan edrych ar eu dewisiadau bwyd a’u ffordd o fyw. Hyd yn oed os oes gan ddau gleient symptomau tebyg, bydd cyngor Angharad yn amrywio yn dibynnu ar eu harferion a’u ffyrdd o fyw.
Canolbwynt ei gwaith yw ychwanegu bwydydd fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr unigolyn i’w diet ac edrych ar y ffordd maen nhw’n bwyta, yn hytrach na chyfyngu ar fwyta grwpiau mawr o fwyd.
Daw ei diddordeb mewn bwyd maethlon iachus o brofiadau personol Angharad ei hun.
“Chefais i erioed fy niagnosio gydag eating disorder, ond o ddeuddeg oed roeddwn i, fel mae lot o ferched yn gwneud yn anffodus, yn dechrau starfio fy hun, torri calorïau, wedyn roeddwn i’n binjo. Dw i’n cofio darllen erthygl yn Just Seventeen am bulimia, ond yn lle meddwl: ‘Oh my god, mae hwnna’n awful’, roeddwn i’n meddwl: ‘Oh my god, mae hwnna’n genius o syniad’.
“Roeddwn i’n binjo a gwneud fy hunan yn sâl am ddegawd. Es i byth i gael fy niagnosio gyda fe, ond yn amlwg dyw hynna ddim yn iach. Ond ar yr un pryd, roeddwn i’n trio ffeindio’r diet magic oedd yn hawdd sticio ato, oedd ddim yn golygu starfio dy hun. “Roeddwn i’n gwneud pethau fel [diet] Atkins, achos [cymeriad] Rachel o [gyfres] Friends. “Roeddwn i’n ymuno â Weight Watchers, Slimming World… fe wnes i bob dim. Roedd yna rywbeth tu mewn i fi, fel efo Atkins, yn dweud wrtha i fod hwn yn wrong.
“Pan oeddwn i’n gwneud TGAU fe wnes i greu diet fy hun. Doeddwn i ddim yn cyfrif calorïau, ond fe wnes i sgrifennu pethau oeddwn i’n licio mas ac fe wnes i golli ryw stone o rywbeth wnes i fy hun. Roeddwn i’n mwynhau gwneud hynny, ac roedd gen i ddiddordeb mewn maeth.”
Newid byd
Yn ei thridegau, rhoddodd Angharad y gorau i yfed alcohol, a golygodd y gyfrol Un yn Ormod, a oedd yn cynnwys ysgrifau gan sawl enw cyfarwydd sydd wedi stopio yfed.
“Roedd alcohol wedi cymryd lan bywyd fi yn fy ugeiniau a fy nhridegau, ac fe wnes i sylweddoli fy mod i’n gaeth i alcohol. Roedd plant gyda fi, roedd Instagram yn llawn gwahanol math o ddietau gwahanol, roeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n dechrau rhoi pwysau arnodd,” meddai, gan egluro bod sawl ffactor wedi dod ynghyd i ail-danio’r diddordeb mewn maetheg.
“Roeddwn i’n gwybod hefyd bod fy exzema i’n gwella pan oeddwn i’n torri mas bwyd dairy [o fy niet]. Roeddwn i’n dechrau meddwl be yn union oedd yn digwydd… roedd torri lawr ar dairy yn cael gwell effaith ar fy exzema nag unrhyw eli. Trwy roi lan alcohol a chyrraedd ryw groesffordd mewn bywyd, roeddwn i’n dechrau mynd yn genfigennus o bobol eraill oedd yn mynd yn ôl i addysg uwch yn hŷn.”
Dilynodd gwrs gradd yn astudio Maetheg ar-lein gyda’r Institute for Optimum Nutrition, gan raddio fis Chwefror y llynedd. Ac ers mis Mai, mae Angharad yn gweld cleientiaid ac yn pwysleisio mai trin anghenion unigrwy pob cleient ydy’r peth pwysig.
“Mewn ymgynghoriad dw i’n cael gwybod be ydy eu hanes nhw, y prif symptomau, eu hamcanion nhw, be maen nhw’n fwyta ar y funud, faint maen nhw’n cysgu, ydy e’n unbroken sleep, faint o ymarfer corff maen nhw’n gael. Dw i hefyd moyn gwybod eu hanes nhw’n mynd yn ôl at enedigaeth – oedden nhw’n vaginal birth, oedden nhw’n caesarean, gafon nhw eu bwydo o’r fron ta o botel, faint o wrthfiotigau maen nhw wedi’u cael ar hyd eu bywyd? Ti’n plethu’r stori efo’r symptomau.”
Mynd i berfedd y broblem
Gan amlaf mae Angharad yn cychwyn trwy edrych ar iechyd y perfedd ei chleient – waeth beth fo’r broblem.
“Edrych ar y gut a sut maen nhw’n bwydo’r bacteria yna yn y gut ydy’r sail o le dw i’n dechrau,” esbonia.
“Dw i chwaith ddim yn dod ato fo drwy ddweud: ‘Torrwch mas gluten a dairy o’ch diet, a Bob’s your uncle’. Mae lot o bobol yn gweld hynna’n cyfyngu arnyn nhw, ac mae e’n ddigon i gau nhw allan. Does dim pawb gyda phroblem efo gluten a dairy, dw i’n siŵr y byddai pawb yn elwa o fwyta llai o gluten a bwyta llai o crappy dairy. Ond dw i’n gwybod bod torri bwydydd mas a rhoi nhw ar banned list yn arwain at binges i lot o bobol, felly dyw hwnna ddim y ffordd dw i’n gweithio.”
Thema gyson ymhlith cleientiaid ydy prinder protein yn y diet, a byddai pawb yn elwa ar fwyta mwy o lysiau a ffrwythau, meddai Angharad.
“Rydyn ni wedi arfer efo’r pump y diwrnod, ond mae astudiaethau ynglŷn â iechyd mwyaf optimal y gut, lle mae gen ti amrywiaeth o facteria, yn edrych yn debycach i rywun sy’n bwyta 30 planhigyn gwahanol yr wythnos. Dyw hwnna ddim jyst yn ffrwythau a llysiau, mae hwnna’n hadau, cnau, herbs, sbeisys, reis… unrhyw beth sy’n tyfu yn y tir. Pan ti’n torri fo lawr, ti’n rhoi deg mewn bolognese felly mae’n fwy doable nag mae pobol yn feddwl.”
Bwyta’n dda gyda bywyd prysur
Gyda bywyd yn tueddu i fod yn ddigon prysur i sawl un, mae’n aml yn haws prynu pryd parod a’i sglaffio tra’n trio gwneud cant a mil o bethau eraill.
“Yn gweithio yn y byd teledu, ti’n gweithio oriau ridiculous,” meddai Angharad.
“Ti’n mynd i garejys yn aml i gael bwyd, felly sut ti’n gwneud dewisiadau gwell bryd hynny?
“Mae straen yn epidemig.
“Nid yn unig ein bod ni ddim yn bwyta’n iawn dan straen, dydyn ni ddim yn cysgu’n iawn, dydy ein system imiwnedd ni ddim yn mynd i weithio’n iawn, mae e’n cael effaith uffernol o niweidiol ar y corff. Mae e’n gallu arwain at bob math o salwch cronig yn ei hun, felly, heb ystyried y diet, ti eisiau helpu rhywun sydd dan straen. Rydyn ni’n gallu ymateb i e-bost yn yr un ffordd ag oedd ein cyndeidiau ni’n ymateb i lew yn dod atyn nhw. Roedden nhw’n rhedeg oddi yno, ond rydyn ni’n eistedd yno, mae ein pwysedd gwaed ni’n cynyddu, mae’r gwaed yn gadael ein horganau treulio ac atgenhedlu ni i fynd i’r cyhyrau i ni allu rhedeg… ond dydyn ni ddim yn rhedeg. Y mwyaf ti yn y stad yna, mae dy gorff di’n arfer bod â phwysedd gwaed uchel, a bod o ddim yn llifo o gwmpas yr organau fel mae e fod.”
Elfen arall o’i gwaith ydy cynnig cyngor i fenywod sy’n mynd drwy’r perimenopos a’r menopos.
“Mae’n gyfnod anodd, a dyw’r pwysau ddim yn dod i ffwrdd dim ots be ti’n ei wneud. Mae’n [gallu] arwain at iselder a brain fog, mae e wir yn amser ofnadwy i rai menywod. Mae rhai menywod yn mynd drwyddo fe’n unscathed. Ond mae yna lot o bethau rydyn ni’n gallu eu gwneud i gefnogi merched sydd yn mynd drwy’r perimenopos a’r menopos.”
Cymryd eich amser
Pa gyngor sydd gan Angharad i bobol sy’n awyddus i ddechrau 2023 gyda mwy o egni?
“Y peth symlaf, a’r peth mwyaf boring yn y byd – ond hwn ydy e go iawn – ydy eistedd lawr a chymryd amser gyda bwyd a’i gnoi e’n iawn. Dyna sut ydyn ni’n mynd i gael y gorau mas o’r bwyd. Ti’n gorfod bod yn relaxed i bob un organ weithio ar y gorau, i gael y secretions iawn i dorri fe lawr. Hyd yn oed os ti’n bwyta rhywbeth maethlon iawn, os ti ddim yn torri fe lawr yn iawn ti ddim yn cael y fitamins a’r haearn ganddo fe. Ti wedi bwyta fe rhy sydyn i’r corff gael cyfle i dorri fe lawr yn iawn, mae gen ti ddarnau mawr wedi cyrraedd dy goluddyn bach, ac maen nhw rhy fawr i fynd drwy’r haenau i’r gwaed.”
Coginio popeth eich hun ydy’r cyngor arall.
“Mae’r broses o goginio yn helpu’r synhwyrau, mae’r ymennydd yn gwybod bod bwyd ar y ffordd. Mae’n gyrru signal i’r stumog i ddechrau creu secretions. Y gwahaniaeth rhwng paratoi dy fwyd a mynd am fwyd cyflym, nid yn unig bod y bwyd yna ddim mor faethlon, ond dydy’r corff ddim wedi cael cyfle i ddeall bod bwyd ar y ffordd.”
‘Dw i ddim yr un un’
Un sydd wedi elwa’n sgil cefnogaeth Angharad ydy Ffion Williams o Gaernarfon oedd yn cael trafferth gyda choden y bustl (gallbladder).
“Roeddwn i’n cael lot o boenau a ballu ac roedden nhw’n amau bod gen i gallstones,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn siŵr iawn be oedd y bwydydd oedd yn effeithio’r poenau. Hefyd, roeddwn i’n cael lot o flinder ac yn gyffredinol heb lot o egni. Es i at Angharad, a thrwy ei chynllun hi roeddwn i’n monitro be oeddwn i’n fwyta a sut oeddwn i’n teimlo ar ôl bwyta. Roedd hynny’n andros o dda. Roedd Angharad wedyn yn edrych ar y dyddiadur bwyd oeddwn i wedi’i gadw, ac yn gwneud cynllun. Fe wnaethon ni drafod y math o fwydydd oeddwn i’n fwyta, pryd oeddwn i’n bwyta nhw, a sut oeddwn i’n bwyta hefyd – fy mod i’n gwneud amser i fwyta yn hytrach na jyst grabio pethau wrth fynd.
“Dw i wedi newid y ffordd dw i’n bwyta, a dw i jyst ddim wedi bod yr un un ers hynny. Dw i ddim yn cael dim poenau, mae gen i lot mwy o egni, ac yn gyffredinol dw i jyst yn teimlo lot gwell. Be sy’n dda, dydy Angharad ddim yn dweud ‘Ti angen mynd ar ddiet’ a thrio colli pwysau ac ati, ti jyst yn newid y ffordd ti’n bwyta. Mae o wedi bod yn newid llwyr i fi, a dw i’n teimlo gymaint gwell.”
Am fwy o dips gan Angharad ewch i dudalen Instagram @angharadnutrition.