Mae’r Wal Dalu wedi ei dymchwel ar gyfer y golofn hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…

Yr wythnos hon, yr awdur Marlyn Samuel sy’n rhoi cyngor i fam sy’n poeni am ei mab, sydd ar fin mentro i Awstralia am flwyddyn ar ei ben ei hun…

Annwyl Marlyn,

Mae fy mab, sydd yn 24 oed, wedi rhoi’r gorau i’w swydd dda ac yn mynd i deithio ar ei ben ei hun i Awstralia am flwyddyn. Tydw i erioed wedi bod yn un mentrus ac mi’r ydw i’n poeni yn arw amdano yn mynd mor bell ac am gyfnod mor hir, a hynny ar ei ben ei hun. Fy ofn mwyaf ydi y bydd o’n penderfynu setlo yno. Fyddai gen i mo’r modd i dalu am awyren i fynd i’w weld ac mae’r syniad o gael wyrion rhyw ddydd a’r rheini yn byw ben arall y byd yn fy nhristau. Dwi’n trio fy ngorau i ymuno yng nghyffro fy mab wrth iddo baratoi i fynd mis nesa’, ond yn ei chael hi’n anodd cuddio fy mhryderon.

YR ATEB

‘Pwy faga blant a thedi bêrs mor rhad’ medda nhw te? P’run ai’n bedair oed, 14 oed, 24 oed neu hyd yn oed pan yn 54 oed, tydi rhieni byth yn stopio poeni am blentyn. Pris bod yn rhiant ydi poeni am ein plant.

Deallaf yn iawn eich consyrn ac mae fy nghydymdeimlad i’n fawr efo chi. Mae’n anodd gollwng gafael, mae gwylio eich plentyn yn magu adenydd a hedfan y nyth yn gallu bod yn anodd. Ond pan mae eich plentyn yn bwriadu hedfan y nyth i goedwig ar yr ochr arall i’r byd, mae yn anoddach fyth. Yn digwydd bod, mae fy ffrind mewn sefyllfa debyg iawn i chi. Mae ei merch  hithau’n bwriadu mynd dramor i weithio, ac mae hithau yn bryderus iawn ei bod yn bwriadu cymryd y cam yma. Dw i’n gwybod, yn ei chalon, fyddai lawer iawn gwell ganddi hithau ei gweld yn aros i fyw a gweithio yn nes at adref, ond mae gan bob un ohonom ein llwybr ein hunain i’w ddilyn.

Mi rydach chi i’ch llongyfarch am fagu mab annibynnol a hyderus sy’n awyddus i weld ychydig o’r hen fyd yma ac ehangu ei orwelion.  Rydach chi’n amlwg wedi gwneud joban gwerth chweil o’i fagu, a chofiwch chi hynny.

Rydach chi’n cyfaddef nad ydach chi’n berson mentrus – ddim pawb sydd – a does dim o’i le ar hynny. Yn naturiol ddigon felly rydych chi’n siŵr o fod yn hel meddyliau ac yn poeni yn ei gylch. Ond ceisiwch atgoffa eich hun bod hwn yn gyfle gwych iddo, a dyma’r adeg orau iddo gymryd y cam yma – mae’n ifanc, yn sengl a heb unrhyw ymrwymiadau.

Dydach chi ddim yn dweud os ydi’ch mab yn dal i fyw gartref neu beidio, ond dw i’n cymryd ei fod dal i fyw’n weddol leol. Rydych chi wedi bod yn ffodus iawn hyd yma i’w gael yn byw’n agos atoch – mi wn am sawl rhiant sydd a’u plant sy’n byw a gweithio mewn dinasoedd mawr yn bell o gartref, neu dramor hyd yn oed.  Dim ond am flwyddyn mae o’n bwriadu mynd, cofiwch, a buan iawn mae blwyddyn yn hedfan.  Dydi o ddim yn bwriadu ymfudo i fyw yno am byth bythoedd.

Mynd o flaen gofid

Efallai eich bod yn mynd o flaen gofid rhyw fymryn yn hel meddyliau y gwnaiff o setlo yno. 24 oed ydi’r hogyn, mae hi ddigon buan iddo fo ddechrau meddwl am setlo i lawr a chael plant. A phetai eich mab yn digwydd cyfarfod rhywun ar ei daith, ac mae hynny’n ‘petai’ mawr cofiwch, mae’r hen fyd yma wedi mynd lawer iawn yn llai efo technoleg fel FaceTime ag ati. Pwy a ŵyr, efallai erbyn hynny y bydd eich sefyllfa ariannol chi wedi gwella. Neu efallai y bydd eich mab yn gallu fforddio prynu tocyn awyren i chi fynd draw yno neu y bydd o a’i deulu’n gallu dod adref i’ch gweld chi. Ond mae hynny’n ‘os’ mawr ac yn bell, bell yn y dyfodol.

Fel rhieni, y peth pwysicaf rydan ni yn ei ddymuno ar gyfer ein plant ydi eu gweld nhw’n hapus ac yn fodlon eu byd. Dw i’n siŵr y byddai’n lawer iawn gwell ganddo chi ei weld o felly ochr arall i’r byd, nac yn anhapus a rhwystredig nôl yng Nghymru fach ac efallai’n difaru ymhen blynyddoedd na fyddai wedi cymryd y cam a’r cyfle yma i fynd i deithio i Awstralia yn ei ugeiniau.

Dw i’n gwybod ei bod hi’n anodd ond, er mwyn eich mab, ceisiwch eich gorau i guddio eich ofnau.  Fel bwmerang yn union, dw i’n siŵr yn ei ôl y daw o.