Fe soniais yn gyflym iawn yr wythnos diwethaf am Colleen Ramsey a’i rhaglen newydd ar S4C. Ond wir i chi, mae hon yn seren newydd ac mae hi’n haeddu colofn gyfan iddi hi ei hun.

Mae Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd wedi bod ar ein sgriniau ers ychydig wythnosau bellach ac mae’r gyfres deledu yn cyd-fynd â chyhoeddi llyfr o’r un enw.