Ers i Gareth Bale gyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i chwarae pêl-droed yn broffesiynol, mae ’na lu o deyrngedau wedi eu rhoi iddo.

Bu’n bêl-droediwr gwych – mae hynny’n amlwg i rywun fel fi hyd yn oed, sy’n deall dim ar y gamp.

Mae’n wir iawn hefyd ei fod wedi bod yn llysgennad ardderchog dros ein gwlad.

Ond sêr camp wahanol iawn sydd wedi cyffwrdd yn fy nghalon i’n ddiweddar – a hynny diolch i raglen arbennig ar BBC 3.