Ddechrau’r wythnos roedd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, yn ceisio rhoi cyngor i Lywodraeth Prydain ar fater cryfhau’r economi a chreu swyddi.

Bu yn galw ar Lywodraeth Rishi Sunak i “ddatblygu strategaeth gyfrifol ac ystyrlon i sicrhau adfywiad a thwf cynaliadwy yr economi” a “buddsoddi mewn partneriaeth i ddatblygu economi Gymreig gryfach”.