Mae erthygl ddadansoddol Huw Prys Jones [Golwg, 15/12/22] am niferoedd y siaradwyr Cymraeg ar sail Cyfrifiad 2021 yn nodi sawl testun pryder a amlygwyd gan yr ystadegau.
Fodd bynnag, teimlaf fod angen ystyried rhai ffactorau ychwanegol wrth i ni gloriannu arwyddocâd y ffigurau.
Yn gyntaf, rhaid amau dilysrwydd ffigurau’r Cyfrifiad blaenorol yn 2011. Dangosodd hwn fod 562,000 [19%] o bobl Cymru’n medru Cymraeg o gymharu â’r 538,000 o siaradwyr [17.8%] yn 2021. Ond roedd nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 3-15 oed yn 2011 tua 70,000 yn uwch na chyfanswm y disgyblion a dderbyniai eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg y pryd hwnnw. Hynny yw, rhaid bod mwyafrif mawr y 70,000 hynny’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg lle, fel y gwyddom, nad oes ond ychydig iawn o’r disgyblion yn cyrraedd rhuglder yn y Gymraeg fel ail iaith. Gallwn gasglu o hynny, felly, fod Cyfrifiad 2011 yn bell o fod yn ddarlun cywir o gyflwr yr iaith.
Bydd angen dadansoddiad manwl pellach o ystadegau 2021, yn enwedig yn y grŵp oedran 3-15, i ganfod faint o ostyngiad go-iawn a fu yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
Yn ail, gall fod yn gamarweiniol barnu ‘Cymreictod’ ardal trwy ganran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yno. Mae’n bwysig ystyried y sefyllfa mewn siroedd fel Caerdydd lle mae canran y siaradwyr yn isel, ond y siaradwyr hynny’n cynnal rhwydweithiau Cymraeg byw iawn trwy ysgolion, eglwysi, cymdeithasau diwylliannol, clybiau chwaraeon a grwpiau o gyfeillion. Mae cymunedau Cymraeg Caerdydd yn hynod greadigol – sylwer ar nifer y buddugwyr llenyddol a cherddorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn blynyddoedd diweddar sy’n byw yn y brifddinas! Mae’r cymunedau hyn yn trosglwyddo’r iaith i’w plant yn effeithiol ac mae’n debyg y byddan nhw gyda ni am byth, er mai isel yw Caerdydd yn nhabl y siroedd yn ôl canran y siaradwyr Cymraeg.
Yn drydydd, dyw’r Cyfrifiad ddim yn cyfri faint sy’n medru Cymraeg y tu allan i Gymru. Yn ôl gwahanol amcangyfrifon, gall fod rhwng 40,000-80,000 o siaradwyr yr iaith yn Lloegr yn unig. Camgymeriad fyddai diystyru’r rhain am eu bod yn trigo rhywle dros Glawdd Offa. Bydd y rhan fwya ohonyn nhw o hyd mewn cyswllt â’u teuluoedd yng Nghymru ac â’r byd Cymraeg trwy’r cyfryngau torfol digidol. Mae sawl un o’r rhain hefyd yn cyfrannu’n adeiladol at y gymuned Gymraeg fawr trwy ysgrifennu a darlledu.
A chrynhoi, felly, er gwaethaf siom canlyniadau’r Cyfrifiad mewn ardaloedd fel Shir Gâr, mae yna ddigon o resymau dros deimlo’n gadarnhaol am y Gymraeg. Mae gennyn ni gymuned o hanner miliwn o siaradwyr, diwylliant hynod o fywiog yn gerddorol ac yn llenyddol, ac mae pobol ar draws y byd yn awyddus i ddysgu’n hiaith ni.
Yr angen mawr yw ysgogi’r hanner miliwn – yn cynnwys ein gwleidyddion yn siambr y Senedd! – i ddefnyddio’r iaith ar bob cyfle a chreu rhagor o ganolfannau a chymdeithasau lle gellir ei siarad yn ddilestair ac yn hwyliog.
Robat Powell
Treforys
Abertawe