Roedd llawer o’r tueddiadau a welir yng nghanlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg eisoes yn amlwg o’r Cyfrifiad blaenorol yn 2011, yn ôl Huw Prys Jones, sy’n paratoi cyfres o ddadansoddiadau o’r sefyllfa mewn gwahanol rannau o Gymru…

Pan gafodd canlyniadau Cyfrifiad 2011 eu cyhoeddi 10 mlynedd yn ôl, byddai rhai o’i brif ganfyddiadau wedi swnio’n ddigon cyfarwydd i ni dros yr wythnos ddiwethaf:

 

  • Gostyngiad o dros 20,000 yng nghyfanswm y siaradwyr Cymraeg;
  • Dirywiad sylweddol yn Sir Gâr yn benodol; ac
  • Amlygu’r gogledd-orllewin fel cadarnle cryfaf y Gymraeg.

 

Yr hyn sy’n wahanol am Gyfrifiad 2021 yw ei fod hefyd, am y tro cyntaf ers 1971, yn dangos lleihad yng nghanran y plant 3-15 oed yr honnir eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Bellach mae’r ganran hon i lawr i 32% o gymharu â 37.6% yn 2011, a’r lleihad yn eu niferoedd wedi cyfrannu’n sylweddol at y lleihad cyffredinol yn nifer y siaradwyr.

Nid yw pethau cynddrwg ag y maen nhw’n ymddangos ar yr olwg gyntaf, fodd bynnag.

Nid canrannau’r plant a oedd yn gallu siarad Cymraeg sydd wedi peri’r prif rwystr rhag cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ond yn hytrach graddau’r gostyngiadau ymysg pobl ifanc.

Gallwn weld hyn yn glir wrth edrych yn ôl ar gyfrifiadau a fu, yn enwedig yn rhai o siroedd y de-ddwyrain.

 

  • Rhwng pedair sir Gwent (Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy) dim ond 2,300 o blant 5-15 oed a allai siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 1991. Roedd bron union yr un nifer – 2,223 – o bobl o’r grŵp hwn, a fyddai’n 25-35 oed erbyn 2011, yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad y flwyddyn honno.

 

  • Saethodd nifer y plant 5-15 a nodwyd fel rhai a oedd yn gallu siarad Cymraeg i 24,516 yng Nghyfrifiad 2001 – cynnydd o ddeg gwaith drosodd. Ugain mlynedd wedyn, nodwyd yng Nghyfrifiad y llynedd mai 3,595 o bobl ifanc 25-35 oedd yn gallu siarad Cymraeg yn y pedair sir. Cynnydd bach, mae’n wir, ond fawr ddim o gymharu â’r cynnydd honedig yn nifer y plant.

 

Mae’r cyfan yn awgrymu nad yw cyfanswm niferoedd y plant sy’n gallu siarad Cymraeg yn dweud cymaint â hynny wrthym am y rhagolygon mewn blynyddoedd i ddod.

Mae’r ffaith mai yn y siroedd hyn y bu’r cwymp mwyaf yn nifer y plant sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2021 yn awgrymu’n gryf hefyd fod yr hyn sydd wedi digwydd yn fwy o gywiriad nag o ddirywiad mewn sawl rhan o Gymru.

Amrywiaethau daearyddol

Llawer mwy arwyddocaol na chyfanswm niferoedd y siaradwyr Cymraeg yw’r amrywiaeth ddaearyddol rhwng gwahanol rannau o Gymru a’r gwahanol dueddiadau sydd ar waith ynddynt.

Ergyd yn sicr oedd gweld hen ardaloedd diwydiannol dwyrain Sir Gâr, a welodd golledion sylweddol rhwng 2001 a 2011, yn gweld dirywiad pellach mewn niferoedd a chanrannau. Collwyd dros 2,000 o siaradwyr Cymraeg yn ardal cymoedd Aman a Gwendraeth, a thros 1,000 yn y pentrefi o amgylch Llanelli.

Yn nhref Llanelli ei hun, fe aeth cyfran y siaradwyr Cymraeg i lawr o 29.4% yn 2001 i 22% yn 2021, a gostwng o 42.7% i 34.2% yn nhref Caerfyrddin yn yr un cyfnod.

Dyna gwymp o 7.4% yn Nhre’r Sosban ac 8.5% yng Nghaerfyrddin o fewn ugain mlynedd cynta’r ganrif hon.

Llai na’r hanner sy’n gallu siarad Cymraeg yn Rhydaman ac amryw o’r pentrefi cyfagos bellach.

Er hyn, mae ambell bentref fel Brynaman, Penygroes, Tymbl, Drefach, Pontyberem a Gorslas – pentrefi Cymreiciaf y sir o hyd – yn dal i gofnodi canrannau o tua 60%.

Er bod cyfran llawer uwch o boblogaeth Sir Gâr wedi eu geni yng Nghymru nag a welir yng Ngheredigion, Gwynedd a Môn, bu cynnydd bach yn y boblogaeth a aned yn Lloegr o gymharu â 10 mlynedd ynghynt.

Go brin fod hyn wedi gwneud gwahaniaeth yn yr hen ardaloedd diwydiannol, ond gallai fod wedi cyfrannu at y dirywiad pellach yng nghefn gwlad.

Pan drown at Geredigion, gwelwn mai dim ond 54% o’r boblogaeth sydd wedi eu geni yng Nghymru, cyfran is nag unrhyw sir arall ac eithrio Powys a Sir y Fflint.

Er bod y gyfran hon yn weddol debyg yn 2011, rhaid cofio bod Cyfrifiad 2021 wedi digwydd mewn cyfnod clo pan oedd llawer llai o fyfyrwyr o gwmpas.

Mae’r cyfan yn dangos graddau’r disodli diwylliannol sydd wedi digwydd yn y sir, a phrin ei bod yn annisgwyl gweld mai o Loegr y daw 80% o’r rheini a aned y tu allan i Gymru.

Yr unig drefi â mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg yn y sir bellach yw Tregaron (58.8%), Llandysul (56.9%) ac Aberaeron (59%), a phrin yw’r pentrefi gwledig sydd â chanrannau cyfuwch â hyn.

Bygythiad cynyddol i’r craidd

 Mae’r Cyfrifiad diweddaraf unwaith eto wedi amlygu prif ardal graidd y Gymraeg yn y gogledd-orllewin – gan ddangos bygythiad cynyddol iddi’r un pryd.

Mae hon yn dal i fod yn ardal eang sy’n cynnwys Caernarfon ac ardaloedd y chwareli, Llŷn ac Eifionydd a gogledd Meirionnydd yng Ngwynedd, a threfi Llanfairpwll a Llangefni a phentrefi cyfagos ym Môn. O’u hamgylch mae ardaloedd yn ne Gwynedd, mewndir sir Conwy a rhannau eraill o Fôn sydd â mwyafrifoedd llai yn gallu siarad Cymraeg.

Er gwaethaf cryfder cymharol y Gymraeg yma o gymharu â gweddill Cymru, mae arwyddion pendant o ddirywiad graddol na ellir eu hanwybyddu.

 

  • Gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg mewn trefi fel Llangefni o (80.7% yn 2011 i 75.6% y llynedd), Caernarfon (o 85.6 i 81.4), a Ffestiniog (o 78.6 i 74.9);

 

  • O edrych ar yr holl ardaloedd yn ehangach, gostyngodd y canrannau tua 2 bwynt canran ar gyfartaledd yng nghadarnleoedd Gwynedd.

 

Roedd y dirywiad yn sylweddol waeth mewn ambell i le, gan gynnwys Llanberis, lle gostyngodd y ganran i 69.5% o gymharu â 74.7% yn 2011 a 80.4% yn 2001.

Dyma, wrth gwrs, y pentref ar droed yr Wyddfa sydd wedi bod yn y newyddion am y ffordd mae wedi dioddef anrhaith gor-dwristiaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Ai gormod fyddai disgwyl i’n harweinwyr gwleidyddol ystyried y gallai fod cysylltiad rhwng y ddau beth?

Anghofiwch y miliwn

Mae’r Cyfrifiad wedi amlygu’n gliriach nag erioed pa mor gwbl allweddol yw’r gogledd-orllewin i hyfywedd a hygrededd y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Dylai hefyd ddangos unwaith ac am byth nad yw’r syniad o drin Cymru fel un uned ieithyddol wedi gweithio.

Anghofiwch am y miliwn o siaradwyr – gweithredu lleol ac ymarferol tuag at dargedau cyraeddadwy ar lawr gwlad sydd ei eisiau.

Mae gwireddu nod clodwiw Llywodraeth Cymru o ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg yn golygu’r angen am roi blaenoriaeth o’r newydd i gynnal a chryfhau ein cadarnleoedd cryfaf.

Rhaid sylweddoli y byddai unrhyw ddirywiad pellach ynddynt yn llesteirio’n ddifrifol unrhyw obaith am dwf cynaliadwy mewn lleoedd eraill yng Nghymru.