Mae Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn wynebu bwlch o £20 miliwn yn ei gyllideb, ond yn benderfynol o ddarparu llefydd cynnes i drigolion mwyaf bregus y sir dros y Gaeaf.

Ac mae hefyd am geisio mynd i’r afael â dirywiad yr iaith yn y gorllewin…

Dyw bod yn Arweinydd ar gyngor sir ddim yn waith hawdd y dyddiau yma, waeth ym mha ran o Gymru’r ydych chi.