Cyllideb Llywodraeth Cymru oedd y pwnc trafod mawr ym Mae Caerdydd ddechrau’r wythnos hon.

Dyma “un o’r cyllidebau anoddaf ers datganoli”, yn ôl Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a hynny oherwydd sgil effeithiau “degawd o fesurau cyni, Brexit a’r pandemig”.

Beth yn union yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 felly?

Un o elfennau mwyaf arwyddocaol y gyllideb oedd dyrannu £165m ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.