Rhwng miri’r Nadolig a’r cynnwrf a ddaeth gyda Chymru’n ei gwneud hi i Gwpan y Byd, mae’n teimlo fel bod pob artist yn y Sîn wedi bod yn brysur yn paratoi naill ai cân Dolig neu anthem bêl-droed.

A ninnau ar drothwy’r diwrnod mawr – y Nadolig, nid ffeinal Cwpan y Byd bnawn Sul! – dyma holi rhai o fechgyn y Sîn Roc Gymraeg am eu senglau Nadoligaidd eleni.

A na phoener, mi fyddwn yn clywed gan ferched y Sîn am eu senglau yn rhifyn yr wythnos nesaf…

ELIS DERBY

Mewn blwyddyn brysur i fandiau ac artistiaid Recordiau Côsh, mae Elis Derby wedi bod yn un o’r prysuraf ohonyn nhw i gyd. Ag yntau eisoes wedi rhyddhau llond llaw o senglau ac ail albwm yn 2022, doedd hi ddim yn syndod clywed fod ganddo gân gwyrci sydd yn wahanol i’r traddodiadol ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn, sef ‘Dolig Diddiwedd’.

Pam rhyddhau sengl Dolig?

“Y llynedd roedden ni jest yn y dafarn ac mae’n rhaid bod yna gân Dolig wedi dod ymlaen a wnaethon ni ddweud: ‘Flwyddyn nesaf mi wnawn ni sgwennu un’,” eglura Elis.

“Ddoth yr albwm allan ym mis Gorffennaf felly ro’n i jest eisiau cadw bach o fomentwm i fynd…

“Dydi pobol ddim yn sylwi – ti’n gorfod sgrifennu nhw o gwmpas mis Gorffennaf neu Awst, lle ti ddim yn teimlo’n Nadoligaidd o gwbl.”

Thema ei sengl Nadolig cyntaf ydi obsesiwn person gyda’r ffilm Die Hard a’r ddadl ddiddiwedd ynghylch categoreiddio’r ffilm enwog dreisgar am y Ditectif John McClane (Bruce Willis) yn trechu’r dihiryn dieflig Hans Gruber.

“Un o fy hoff ffilmiau i ydi Die Hard,” meddai Elis, “ac mae o’n ddadl dw i’n clywed bob Dolig – ydi o’n cyfri fel ffilm Dolig neu ddim?

“Dw i’n dweud ei fod o, felly dyna pam wnes i ganolbwyntio gymaint ar y ffilm [yn y gân newydd].

“Ro’n i wedi dechrau cân arall dw i’n siŵr ble roedd o’n disgyn mewn i’r typical cân Dolig sy’n sôn am bawb yn hapus, mae o’n swnio’n naff ac mae yna gymaint ohonyn nhw wedi cael eu gwneud o’r blaen.

“Felly, ro’n i’n meddwl byswn i’n rhoi spin bach yn wahanol a chanolbwyntio mwy ar y ffilmiau sy’n dod o gwmpas adeg y Nadolig.”

Hoff gân Dolig?

“Mae o rhwng ‘Merry Xmas Everybody’ gan Slade neu ‘Happy Xmas (War is Over)’ gan John Lennon.

“Ond, go-iawn, os wna i glywed ’Fairytale of New York’ gan The Pogues a Kirsty MacColl ar y radio rŵan, fyswn i’n dweud mai honna ydi o. Mae o’n newid mor aml.”

Gigs dros y Dolig?

“Ddim dros gyfnod y Nadolig yn anffodus.

“Mae’r gaeaf wastad yn amser bach yn ddistaw i fandiau.

“Dyna un o’r rhesymau wnes i benderfynu gwneud y gân yma, er mwyn gallu cadw bach o fomentwm i fynd.”

Sut fyddwch chi’n dathlu’r Dolig?

“Fel dw i yn bob Dolig… bwyta lot, yfed lot, mynd i’r pub lot, gwylio Die Hard lot. Jest mwynhau fy hun.”

A sut flwyddyn oedd 2022?

“Digon prysur.

“Rydan ni wedi cyflawni lot o’r pethau roedden ni wedi bwriadu gwneud ar ddechrau’r flwyddyn, ac mae hynna’n ddigon i fi.

“Wnes i chwarae Maes B am y tro cyntaf, wnes i ryddhau ail albwm.

“Gobeithio bydd y flwyddyn nesaf yn ddigon tebyg.”

A be sydd ar y gweill yn 2023?

“Mae o i gyd yn dibynnu ar y gigs.

“Fyswn i’n gobeithio gwneud sengl arall cyn haf nesaf, ond pwy a ŵyr?

“Ella fydd rhaid fi ddechrau sgrifennu fo rŵan!”

  • Mae ‘Dolig Diddiwedd’ ar gael i’w ffrydio nawr

FLEUR DE LYS

Ddwy flynedd ers I Fleur de Lys rhyddhau eu cân Dolig cyntaf, ‘Amherffaith Perffaith’, maen nhw yn ôl eleni gyda ‘Bwrw Eira’.

Pam rhyddhau sengl Dolig (arall!)?

“Wnaeth o ddigwydd yn hollol ar ddamwain,” eglura canwr-gitar-cyfansoddwr y band poblogaidd o Fôn, Rhys Edwards.

“Doeddwn i heb fwriadu gwneud un o gwbl.

“Ro’n i jest yn potsian ar y soffa cyn mynd allan i rywle ac wedyn ddoth y lein ‘bwrw eira’ a wnes i jest mynd amdani wedyn.

“Rydan ni ar ganol sgrifennu albwm ar y funud felly doedd cân Dolig ddim ar y rhestr o flaenoriaethau, ond mi fydd hon ar yr albwm.

“Dw i’n meddwl mai rhyw fath o drosolwg o sut mae’r Dolig yn wahanol i bawb ydi [‘Bwrw Eira’].

“Dydi ddim o reidrwydd y Dolig perffaith yna mae pobol yn mynd ati i wneud o allan i fod.

“Yr ochr arall i’r geiniog, mewn ffordd.

“Mae pobol yn anwybyddu problemau’r byd i gyd tra mae’r Dolig yn mynd ymlaen… bo’ chdi methu talu bil trydan ond wnawn ni brynu gwerth £40 o gaws o Morrisons.”

Hoff gân Dolig?

“Dw i’n ffan o Frizbee erioed a dw i’n licio ‘O Na Mae’n Ddolig Eto’.

“Dw i’n licio bod yna elfen o gomedi iddo fo, er bo’ fi newydd sgrifennu cân hollol serious – maen nhw’n gwrthgyferbynnu fymryn bach.

“Dw i wrth fy modd yn gwrando ar ‘Fairytale of New York’ a chaneuon fel yna pan mae Dolig yn dod rownd, dw i yn licio caneuon Dolig.”

Sut fyddwch chi’n dathlu’r Dolig?

“Jest efo teulu, digon o dwrci a digon o fwyd, a gweld bach o bawb. Efo fy ngwraig a fy nghi bach.”

Sut flwyddyn oedd hi eleni?

“Blwyddyn dda ar y cyfan.

“Fysa’n well i fi ddweud hynna achos dw i newydd briodi ac mae fy ngwraig i’n eistedd wrth fy ochr i.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn i’w chofio, chwarae teg.”

Be sydd ar y gweill yn 2023?

“Mae’r albwm ar y ffordd felly teithio honna o amgylch Cymru dros yr haf. Dyna sydd yn y pipeline.”

  • Bydd ‘Bwrw Eira’ ar gael i’w ffrydio ar 16 Rhagfyr

GERAINT RHYS

Un arall nad oedd wedi bwriadu recordio cân Dolig yw’r cerddor sydd hefyd yn gwneud ffilmiau, Geraint Rhys.

Mae yn gweithio yn yr Almaen yn ymchwilydd i artistiaid ar hyn o bryd, y teimlad hiraethus yna o edrych ymlaen at ddychwelyd at ei deulu yn Abertawe wnaeth sbarduno ‘Amser Dolig’.

Pam rhyddhau sengl Dolig?

 “Dw i ddim wir yn gallu esbonio fe, rhywbeth naturiol oedd e.

“Dw i ddim cweit yn casáu caneuon Nadolig, ond yn bendant gyda phopeth fi wedi rhyddhau yn y gorffennol mae themâu gwleidyddol yn dod allan.

“Ond weithiau gyda stwff creadigol, mae jest yn digwydd.

“Ro’n i jest yn dechrau meddwl am y Nadolig… Dw i ddim yn berson crefyddol o gwbl ac i fi mae’r Nadolig yn fwy i wneud gyda theulu a mynd nôl adref a chwrdd gyda ffrindiau a theulu.

“Wnes i jest meddwl am hynna, achos fi’n gweithio lot draw yn yr Almaen ar hyn o bryd, a wnaeth e jest dod o hynna rili. Roedd e’n swnio fel cân Nadolig i fi.

“Gan amlaf fi ddim hyd yn oed yn gwrando ar ganeuon Nadolig.

“Ond fi’n hoffi sialens greadigol ac mae’n neis gwneud rhywbeth hollol wahanol.

“Cafodd y gân ei hysbrydoli gan feddwl am Nadolig gartre yn Abertawe.

“Dw i’n gweithio yn yr Almaen ar y funud ac mae’n gyfle i adlewyrchu am gartref, Cymru a Chymreictod.

“Wnaeth y gerddoriaeth ddod gyntaf gyda’r geiriau wedyn, a daeth y stwff Nadoligaidd yn y production suite.”

Hoff gân Dolig?

“‘Clychau’r Ceirw’ gan Al Lewis, mae honna’n gân neis.”

Sut fyddwch chi’n dathlu’r Dolig?

“Nôl yn Abertawe gyda theulu a ffrindiau. Dyna beth ro’n i’n trio cyfleu yn y gân… jest bod o gwmpas teulu, cwrdd â ffrindiau, cadw’n brysur, mynd lawr i’r traeth a gweld y tirlun gwahanol yn y gaeaf.”

Sut flwyddyn oedd 2022?

“Mae wedi bod yn flwyddyn dda. Rydw i wedi rhyddhau pedwar neu bump o senglau ac mae rhai wedi bod yn Welsh Artist of the Week y BBC.

“Mae un o’r ffilmiau wnes i wneud i’w gweld mewn arddangosfa mewn galeri yn agos i Milan yn yr Eidal, a fi wedi bod yn gweithio ar brosiectau gwahanol yn yr Almaen.

“Mae wedi bod yn flwyddyn brysur ond mae wedi bod yn hwyl.”

Be sydd ar y gweill yn 2023?

“Mae lot o’r prosiectau dw i’n gweithio ar yn yr Almaen yn cael eu harddangos mewn arddangosfeydd yn y flwyddyn newydd.

“Ac mae gyda fi mwy o gerddoriaeth i’w ryddhau hefyd, yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

“Falle EP Cymraeg, mae jest yn dibynnu ar arian, amser a phopeth arall sy’n peri gofid i artistiaid sy’n trio ennill bywoliaeth!”

  • Mae ‘Amser Dolig’ ar gael i’w ffrydio nawr