Mae prif gymeriad nofel newydd yn gweithio i asiantaeth gudd sy’n ceisio mynd i waelod achosion goruwchnaturiol…

Os oeddech chi’n ffan o gyfres The X Files erstalwm, neu nofelau dirgelwch hanesyddol fel rhai Dan Brown – wel, nofel ddiweddaraf Siân Llywelyn yw’r un i chi’r Nadolig yma.

Darogan yw ail nofel yr awdur o Benrhyndeudraeth ger Porthmadog, yn dilyn Drychwll a ddaeth allan yn 2020.