Brethyn Gwlad yw teitl cyfrol o gerddi diweddar y Prifardd Eirwyn George, yn dilyn Cân yr Oerwynt yn 2009. Mae’r bardd dros ei 80 oed erbyn hyn, a’i gatref ym mhentref Maenclochog, Sir Benfro yn llawn cadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys dwy Goron Eisteddfodol – y naill yn Eisteddfod Abertawe 1982, a’r llall yn Llanelwedd 1993.