Beth petawn i’n dweud fel a ganlyn?

Yn fuan byddaf yn gwerthu tŷ yn fy hen ardal.

Ail dŷ i mi ydyw, a chaf fod y premiwm [treth cyngor] sydd i’w osod gan Gyngor Gwynedd yn ormod i’w dalu.

A beth petawn i’n darogan fel hyn?

Naw i un nad Cymro fydd yn ei brynu.

A fydd aelodau Cabinet Gwynedd, a mwyafrif aelodau’r Cyngor, yn hapus wedyn?

Mae eto amser i’r awdurdod ystyried ymhellach, diwygio peth ar y polisi, ac eithrio brodorion rhag talu’r premiwm.

Pwy sydd am ddod â chynnig ymlaen?