Alun Rhys Chivers sy’n bwrw golwg ar hynt a helynt y tîm pêl-droed draw yn y Dwyrain Canol, ynghyd â’r gobeithion ar gyfer y dyfodol…

Os ydych chi ddim wedi chwarae yng Nghwpan y Byd ers 1958, mae’n debyg nad yr un dadleuol yn Qatar fyddech chi’n ei ddewis o reidrwydd i gymhwyso ar ei gyfer. Ond os cymhwyso, yna rhaid gwneud y mwyaf o’r cyfle. A dyna broblem Cymru. Wnaethon nhw ddim manteisio o gwbl ar lwyfan y byd i ddatgan eu bod nhw “yma” heb sôn am “yma o hyd”.