Fe sbardunodd adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig gryn dipyn o drafodaeth ymysg gwleidyddion Cymreig yr wythnos hon.

Dyma adroddiad sydd wedi bod ar y gweill ers mis Medi 2021, ac roedd sawl un yng Nghymru wedi gobeithio y byddai’n argymell datganoli meysydd megis plismona a chyfiawnder o San Steffan i Fae Caerdydd.

Breuddwyd gwrach oedd honno, gyda’r cyn-Brif Weinidog yn argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf yn unig.