O ran Cymru beth bynnag, ychydig o lygoden a gafodd ei geni gan eliffant yw arolwg Llafur ar y cyfansoddiad. Yn ôl blogwyr, mae yna ddiffyg manylion hefyd ac amheuaeth a fydd dim byd go-iawn yn digwydd…

“Drwyddi draw, er iddo gael ei sgrifennu’n ymddangosiadol gan Gordon Brown, mae’r adroddiad cyfan yn ymddangos yn ychydig o gybolfa annelwig, yn rhoi’r argraff ei fod wedi ei sgrifennu gan bwyllgor a hynny efallai’n cadarnhau’r awgrymiadau fod lawer iawn o anghytundeb ymhlith arweinwyr Llafur y Deyrnas Unedig ynglŷn â’i gynnwys.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)

Ond mae’r drafferth yn ddyfnach, meddai John Dixon, ac adroddiadau fel hwn yn gwneud dim ond cosi’r wyneb…

“Y broblem sylfaenol, yr un y maen nhw wedi ei hanwybyddu’n llwyr, ydy’r dybiaeth fod ‘sofraniaeth’ wedi ei wreiddio yn y teyrn gan Dduw a’i arfer yn San Steffan trwy ras y teyrn hwnnw. Dyna ganlyniad anorfod cyfansoddiad brenhinol. Heb symud i gydnabod yn benodol bod ‘sofraniaeth’ yn eiddo i’r bobol ym mhob cenedl neu ranbarth, a’i bod yn cael ei harfer ar eu rhan trwy’r amrywiol seneddau, mae’n anodd gweld sut y gallan nhw weithredu’r newidiadau tymor hir sydd eu hangen. Fyddai sylfaenwyr y Blaid Lafur yn cael fawr o drafferth i ddeall hynny, ond fe fydd y creaduriaid di-asgwrn cefn sydd yn y blaid ar hyn o bryd yn parhau i redeg am eu bywydau oddi wrth y syniad o ymbweru go-iawn.” (borthlas.blogspot.com)

Yr Alban gafodd fwya’ o sylw Gordon Brown ond, yno, mae rhai cenedlaetholwyr yn dal i anobeithio ar ôl methiant yr achos llys ynglŷn â’r hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth…

“… llongyfarchiadau i’r rheiny sydd heb weledigaeth ar gyfer Alban well ac sy’n fodlon i reoli dirywiad. Llongyfarchiadau i’r rheiny ohonoch chi sy’n edrych ar gymdeithas wedi’i chreithio gan anghydbwysedd cymdeithasol ciaidd, wedi ei haflunio gan dlodi a heb fawr neu ddim atebion strategol i’n problemau cronig, tymor hir… ac yn dweud: ‘Mae hyn yn grêt’.

Llongyfarchiadau i’r rheiny yn eich plith sy’n edrych ar ddemograffeg pobol ifanc yr Alban yn pledio am newid, yn dyheu am gyfle i fod yn rhan o ddemocratiaeth fodern ac sy’n dweud, na, mae’r status quo yn ddigon da, dyna’r cyfan sydd yna. Fy nghymynrodd i chi fydd eich clymu i’r Undeb a hyd yn oed mygu eich cyfle i gael llais neu gael trafodaeth am eich dyfodol.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)

Ond i Dafydd Glyn Jones, yr Alban ydi’r ysbrydoliaeth o hyd. Ac yn ei sgil hi, mi ddaw yna ryw fath o gyfle i Gymru…

“PAN… OS… daw hi yn yr Alban, dyna fydd y pryd i osod y cwestiwn o flaen y Cymry. A phan ddaw, gofalwn ei fod y cwestiwn iawn. Nid y cwestiwn, diystyr erbyn hynny, ‘A ydych am i Gymru barhau’n aelod o Brydain Fawr ai peidio?’ Oherwydd ni bydd Prydain Fawr fel gwladwriaeth unedol. Y cwestiwn bellach ddylai fod: ‘A ydych am (a) i Gymru barhau’n rhan o Loegr, ynteu (b) i Gymru fod yn wladwriaeth gyfartal â Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon?’” (glynadda.wordpress.com)