(Ddechrau’r wythnos cyhoeddwyd bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi cwympo. Adeg Cyfrifiad 2021 dywedodd 538,300 o rai 3+ eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 562,000 yn 2011. Dyma gwymp o tua 23,700, o 19% o’r boblogaeth lawr i 17.8%)
Ddylai neb fod wedi synnu o weld ffigurau cynta’ Cyfrifiad 2021 ynglŷn â’r iaith Gymraeg. Ond ddylai neb anobeithio’n llwyr chwaith – dim ond cydnabod y gwaith sydd angen ei wneud.