Unwaith eto rydym yng nghanol sgwrs frwd am hiliaeth ym Mhrydain, yn dilyn cwyn Ngozi Fulani (pennaeth Sistah Space) am ei thriniaeth mewn derbyniad ym Mhalas Buckingham. A bydd mwy o drafod wrth i Netflix ddarlledu cyfres newydd Meghan Markle a’i gŵr druan, Harry Windsor – fu eisoes yn cwyno am hiliaeth o fewn y teulu brenhinol.

Gall fod yn ddefnyddiol, ar adegau fel hyn, i gofio gwaith comisiwn arbennig a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain, sef y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig.