Pan oedd Liz Truss yn bygwth torri graddfa sylfaenol treth incwm o geiniog gron, roedd yna drafodaeth yng Nghymru am hynny. A ddylai’r llywodraeth yng Nghaerdydd ddilyn y drefn neu ddefnyddio’i grymoedd i wrthod y gostyngiad?
Roedd Plaid Cymru yn gwneud synau o blaid gwrthryfela ac ar fin dechrau defnyddio hynny’n arf yn erbyn Llafur a’r disgwyl oedd y byddai Mark Drakeford a’i reddf sosialaidd yn ei chael hi’n anodd iawn gwrthsefyll.