Mae yna bendroni wedi bod ynghylch ffigurau iaith Cyfrifiad 2021 a’r stilio mwya’ tros ffigurau annisgwyl plant a phobol ifanc a chwymp ymhlith siaradwyr Cymraeg rhwng 3 a 25 oed. Mae sawl un wedi ymateb i alwad Cymdeithas yr Iaith am ddeddf i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei addysg trwy gyfrwng y Gymraeg…

“‘Addysg Gymraeg i bawb’? Byddai Addysg yn rhan o unrhyw ateb, ond nid y cyfan o bell ffordd. Oherwydd cofiwn bob amser fod gan 85% o blant imiwnedd naturiol i unrhyw beth a glywant o fewn muriau dosbarth. Dyna pam na lwyddodd y Welsh Not yn y cyfan o Gymru. Llwyddodd mewn rhai ardaloedd, yn cynnwys y rhai mwyaf poblog, oherwydd cyfuniad ag (a) mewnfudo mawr, a (b) ideoleg arbennig. Addysg mewn cyfuniad â rhywbeth arall, fan yna yn rhywle mae’r allwedd.” (Dafydd Glyn Jones ar glynadda.wordpress.com)

“… Mae twf addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod yn llwyddiant yn ystod y 60 mlynedd ddiwetha’, ond mae’n dwf sydd i raddau helaeth wedi ei arwain gan alw, wedi ei ennill gan ymgyrchwyr penderfynol, gyda’r awdurdodau (Llafur, fel arfer, ond nid bob tro) yn llusgo’u traed ac yn araf i ymateb i’r galw. Mae yna lawer o blant sydd eisoes wedi colli’r cyfle oherwydd diffyg darpariaeth yn eu hardaloedd a does fawr o amheuaeth fod yna blant heddiw sy’n cael eu haddysgu trwy’r Saesneg a fyddai’n cael eu haddysg trwy’r Gymraeg pe bai darpariaeth gyfleus ar gael. Mae cyflymu’r broses o gynnig y ddarpariaeth, o hyfforddi’r addysgwyr a chyrraedd y pwynt lle bydd twf y dyfodol yn cael ei arwain fwy gan ddarpariaeth… na galw… yn llwyr o fewn gallu Llywodraeth Cymru ac, yn syml, dydyn nhw ddim yn gwneud cymaint ag y gallen nhw. Fe ddaw’r amser am ddeddfu mae’n siŵr ymhen amser ond, yn y cyfamser, mae yna beryg y bydd galwadau rhy gynnar am ddeddfwriaeth na all Drakeford eu cyflawni, ac na fydd yn eu cyflawni, yn tynnu sylw oddi wrth y pethau hynny y gall ac y dylai eu gwneud. Pethau y mae’n ddiffygiol ynddyn nhw.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)

“A fyddai [addysg cyfrwng Cymraeg i bawb] er lles Cymru? Yn fy marn i – o ran diwylliant, dysg a chymdeithas – mae’n fantais bendant i wreiddio dwyieithrwydd yn ein strwythurau… Ond a yw e’n ymarferol yn wleidyddol? Yn bendant, nac yw. Mae Mark Drakeford yn gwybod na fyddai ‘ei blaid’… fyth yn mabwysiadu’r fath beth, a hynny’n adlewyrchu’r teimladau yn llawer o’r cymunedau Cymreig y maen nhw’n eu cynrychioli. Byddai dechrau’r ddadl honno ynddi ei hun yn mynd â’r iaith yn ôl hanner can mlynedd ac yn agored i ymosodiadau. Ond mae arnon ni angen syniadau mentrus a bod yn ymosodol. Mae’r ddadl tros ddyfodol yr iaith yn rhy ddifrifol i’w adael i adroddiad llywodraeth sydd eisoes yn edrych yn hen ffasiwn ac afrealistig.” (Theo Davies-Lewis ar nation.cymru)