Erbyn hyn bydd yr ymateb i ystadegau’r Cyfrifiad ar y Gymraeg lawn hysbys â’r ffigurau eu hunain. Cymedrol, ar y cyfan, ydi’r ymateb hwnnw. Esboniadau tawel am sut y gallai’r pandemig fod wedi effeithio ar rieni’n sylwi ar allu iaith go-iawn plant. Egluro mai proses hirdymor yw adfywio iaith. Sôn bod llawer o bethau ar waith eisoes sy’n ein harwain at ddyfodol disglair.