Mae llun trawiadol o fynydd Tryfan yn Eryri wedi ennill gwobr tirlun y flwyddyn i ffotograffydd o Ddyffryn Ogwen mewn gwobrau Prydeinig pwysig.

Roedd dod i’r brig yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Prydain yn “dipyn o sioc” i Aled Lewis, sy’n byw ym mhentref Rhiwlas ger Bangor ac yn tynnu lluniau fel hobi ers y cyfnod clo.