Helo blantos!

Mae’r Nadolig yn dod! Anrhegion! Twrci! A Siôn Corn!

Ond beth yw’r clychau sy’n canu o bell?!

Ambiwlans, wrth gwrs! Yn rhuthro Wncwl Jon i’r ysbyty wedi iddo yfed gormod ar ôl ei ginio Dolig – a dechrau paffio gydag Wncwl Wil!

Os, fel fi, rydych chi’n meddwl bod y Nadolig yn rhy-gormod, dyma ambell syniad i’ch helpu osgoi’r gor-ddathlu. Yn fwy na hynny, dyma sut y gallwch ymddwyn yn hollol annymunol, er mwyn difetha Nadolig pawb arall!