Mae ein colofnydd Garmon Ceiro draw yn y Dwyrain Canol yn cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd

Wel, ar ôl y dadle, yr amheuon, a’r holl blwmin admin, dw i mas yn Qatar. Ma rhif fy mhasbort wedi’i serio ar fy nghof erbyn hyn a finne ’di gorfod nodi fe ym mhob twll a chornel o’r rhyngrwyd dros yr wythnose dwetha, a ma gas ‘da fi feddwl faint o drwbwl fydden i ynddo sen i’n digwydd colli fy ffôn nawr.