Fe wnes i’n fwriadol aros ychydig wythnosau cyn ysgrifennu am Gogglebocs Cymru. Roedd o’n newyddion reit fawr pan gyhoeddwyd ychydig fisoedd yn ôl fod fersiwn Gymraeg o raglen boblogaidd Channel 4 wedi ei chomisiynu. Roedd hen edrych ymlaen ymhell cyn i un o uchafbwyntiau amserlen yr hydref ddechrau ar S4C bedair wythnos yn ôl felly. Serch hynny, roeddwn yn awyddus i oedi cyn rhoi fy marn.