Ar drothwy Cwpan y Byd, mae Golwg wedi chwalu’r wal dalu ar gyfer yr erthygl hon, i bawb gael mwynhau’r arlwy am ddim…

Mae Pawb A’i Nain wedi recordio cân ar gyfer y trip i Qatar… neu fel yna mae hi’n teimlo!

Ers wythnosau bellach mae Heno wedi bod yn dangos fideos o fandiau yn canu am sgorio, taclo, penio a phasio dros Gymru.

Teg dweud bod y bandwagon yn gwegian, hyd yn oed cyn i’r “caneuon swyddogol” ymddangos.

‘Yma o Hyd Cwpan Y Byd’ gan Dafydd Iwan, Ar Log a’r Wal Goch yw “anthem swyddogol” y Gymdeithas Bêl-droed.

Mae hon yn ddiawledig o debyg i’r ‘Yma o Hyd’ gafwyd gan Dafydd yn 1983, ond bod 70,000 o ffans a chwaraewyr Cymru yn canu ar yr un newydd, ar ôl cael eu recordio yn cyd-ganu gyda Dafydd y Dadeni adeg y gêm yn erbyn Wcráin ym mis Mehefin.

Ac ar CD y fersiwn newydd fe gewch chi recordiad o’r Wal Goch yn canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

Los Blancos gafodd y gwaith o greu cân Cwpan y Byd S4C, ac mae ‘Bricsen Arall’ yn myfyrio ar y boen a’r gorfoledd o orfod aros 64 mlynedd i gyrraedd y ffeinals… ac yn gyfeiriad niffdi at y ffaith fod y Wal Goch wedi ei chodi o frics.

A bechod, mae hyd yn oed cyflwynwyr Heno a P’nawn Da wedi recordio ‘Heno yn Qatar’ er mwyn llenwi rhyw dair munud ar S4C. (Ewch i chwilio am y fideo i hon ar y We, mae’n ddigon o sioe).

Ond yn ogystal â Dafydd Iwan a Los Blancos a chriw Heno, mae yna ambell wyneb llai cyfarwydd wedi bod wrthi yn recordio caneuon pop pêl-droed.

Nôl yn 2018 roedd ‘Titw Tomos Las’ gan Hogia’r Wyddfa yn anthem answyddogol i Geraint Thomas wrth iddo ennill y Tour de France.

Ac mae dau gyfaill o bentref bach Llanbêr yng Ngwynedd yn gobeithio eu bod wedi creu anthem debyg gyda’u fersiwn newydd o un o hen glasuron Hogia’r Wyddfa.

Fe gafodd ‘Safwn Yn Y Bwlch’ ei rhyddhau yn 1969 a dod yn un o ganeuon enwoca’r iaith Gymraeg.

Rwan mae nai Elwyn Jones, un o sylfaenwyr Hogia’r Wyddfa, wedi mynd ati gyda help y gitarydd Jono Davies, i ailrecordio’r anthem jesd mewn pryd ar gyfer Cwpan y Byd.

Ac maen nhw wedi newid mymryn ar y geiriau.

Yn y gân wreiddiol, roedd yr Hogia yn canu: ‘Safwn yn y bwlch gyda’n gilydd yn awr’.

Ar y fersiwn newydd mae Jono yn canu: ‘Safwn yn y bwlch gyda’r Wal Goch fawr’.

Teg dweud bod gan y fersiwn newydd fwy o feib indi-roc na’r gwreiddiol.

A bu recordio’r gân yn rhywbeth personol i Jono, a fu yn byw dros y ffordd i Elwyn Jones, a fu farw yn 2017, yn Llanberis.

“Roeddwn i yn adnabod Elwyn, yn ei weld o’n y gym yn disgwyl am ei wraig, ac roedd o’n eistedd efo’i bapur, yn ffan Arsenal. Ac roeddan ni yn siarad ffwtbol,” cofia Jono.

Eleni daeth nai Elwyn, Glyn Hughes, at Jono yn awgrymu ailymweld ag un o glasuron y gorffennol.

Bu Jono wrthi “bob dydd ers mis Mehefin” yn gweithio ar y fersiwn newydd o ‘Safwn Yn Y Bwlch’ yn ei stiwdio gartref.

“Dw i wedi gwneud tua six thousand o versions!

“Dw i ddim yn gadael i bethau fynd tan dw i’n hapus… pan ti’n gwneud cyfyr o ‘Safwn Yn Y Bwlch’, mae’r pressure yn immense.

“Roeddwn i jesd â lluchio’r tywal i fewn cwpwl o weithiau.”

Bu Elwyn Jones fyw yn Llanberis ar hyd ei oes, a fo oedd y llais bass dwfn ar recordiau Hogia’r Wyddfa.

Ac mae ei nai, Glyn Hughes, yn canu bass ar gytgan y fersiwn newydd o ‘Safwn Yn Y Bwlch’, sy’n cychwyn gyda dyfarnwr yn chwythu ei chwiban.

Mae ‘Safwn Yn Y Bwlch (Cwpan Y Byd 2022)’ gan Jono Davies gyda Glyn ‘PWD’ Hughes ar gael i’w ffrydio

Jono Davies, ar y chwith, gyda Glyn ‘PWD’ Hughes
wrth y wal ‘Yma o Hyd’ yng Nghaernarfon

Mark Hughes a C’mon Midffîld

Mae Jono Davies yn creu cerddoriaeth ers blynyddoedd gyda’i fand Something Personal, ac wedi canu ar raglenni fel Uned 5 a Heno.

Ond mae ganddo ambell claim to fame pêl-droedaidd hefyd sy’n ymwneud efo C’mon Midffîld.

Fe gafodd ei fagu ym mhentref Llanrug lle’r oedd talpiau helaeth o’r gyfres chwedlonol yn cael ei ffilmio.

Roedd yn ecstra yn y bennod gyntaf un o C’mon Midffîld, wedi ei ffilmio yn bwyta cacenni hufen ac yn cael £5 am ei drafferth.

Ar gyfer cael ei ffilmio, roedd Jono wedi gwisgo ei dracwsig Man U… yn ddiweddarach mi fyddai yn cyfarfod prif streicar y clwb hwnnw, ag un o arwyr tîm pêl-droed Cymru.

“Ychydig o wythnosau wedyn roedd Mark Hughes lawr yn [nhafarn] Penbont [yn Llanrug, yn ffilmio gyda C’mon Midffîld],” cofia Jono.

“A dyma Dad yn byrsdio fewn i wers gwcio [yn yr ysgol] ar bnawn dydd Mercher, a dweud: ‘Tud Jono! Mae ff***n Mark Hughes yn Penbont!’

“Ag off â ni i weld Mark Hughes!”

Waka Waka Cymru

Mae un o ganeuon Cwpan y Byd eleni wedi cael sêl bendith Tim Williams, y dyn sy’n rhedeg siop Spirit of 58 yn y Bala ac wedi gwerthu hetiau bwced rif y gwlith i gefnogwyr Cymru.

Bu Iestyn Jones yn mynd draw i siop Tim i ganu ‘Waka Waka Cymru’ a gofyn am farn y dyn sy’n gwerthu pob mathau o ddillad a bathodynnau a baneri yn dathlu ymddangosiad diwethaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn Sweden yn 1958.

“Rydw i’n byw yn y Bala erbyn hyn, ac wedi bod yn mynd draw i ganu’r gân yn y siop gan Tim,” eglura Iestyn Jones.

“A fysa Tim yn rhoi adborth I fi: ‘O na, tydi hwnna ddim yn gweithio’, neu ‘O, ma hwnna’n dda’.”

Mae ‘Waka Waka Cymru, cân Cwpan y Byd Iestyn Jones a’i fand, Josgins, yn fersiwn newydd o ‘Mint Sôs’, sef y gân wnaethon nhw ryddhau adeg Ewros 2016.

“Wnaeth ‘Mint Sôs’ yn dda,” meddai Iestyn. “Ond yn edrych arna fo rŵan, a chael amser i adlewyrchu a chynnal Post Mortem, doedd y gytgan ddim cweit yna…

“A’r gytgan wreiddiol ar gyfer ‘Waka Waka Cymru’ oedd ‘Viva Gareth Bale’, ond roeddwn i yn meddwl bod ‘Viva Gareth Bale’ jesd yn sdêl, pawb wedi ei glywed o.”

Y gytgan derfynol ydy ‘Rydan ni yng Nghwpan y Byd, Waka Waka Cymru’.

“Mae ‘Waka Waka’ yn golygu ‘do it’ yn Affrikans,” meddai Iestyn.

Nid dyma’r tro cyntaf i ‘Waka Waka’ ymddangos yn nheitl cân bêl-droed – ‘Waka Waka (This Time for Africa)’ oedd enw’r gân FIFA swyddogol ar gyfer Cwpan y Byd 2010 yn Ne Affrica, a gafodd ei chanu gan Shakira o Golombia.

Iestyn Jones yn siop Spirit of 58 yn y Bala

Fideo, Bill Shankly a Dave Datblygu

Er mwyn rhoi hwb bach ychwanegol i ‘Waka Waka Cymru’, mae Iestyn Jones wedi ffilmio fideo i’r gân sydd i’w gweld ar YouTube ac yn cynnwys chwaraewyr timau ieuenctid y Bala yn dawnsio a dal replica o dlws enwog Cwpan y Byd.

Roedd y fideo yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghlwb Golff y Bala nos Wener ddiwethaf, ac mae Iestyn yn gobeithio creu cynnwrf.

“Dw i wedi bod yn trio efo miwsig ers dros ugain mlynedd, yn hawdd,” meddai Iestyn, “ac mae rhai o fy nghaneuon i wedi cael eu rhoi ar playlist [y radio], ond dw i ddim wedi cael y magnus opus eto.

“Ond un peth sydd gen i fel dipyn bach o trump card efo ‘Waka Waka Cymru’ ydy bo fi wedi gwneud y fideo yma efo Bala Juniors.”

Ar derfyn ‘Waka Waka Cymru’ mae David R Edwards o’r band seminal Datblygu i’w glywed yn dweud: ‘Cytunwch gyda Bill Shankley am fywyd a pêl-droed, a mwynhewch, mwy nag erioed’.

Yma mae Dave Datblygu yn cyfeirio at ddyfyniad enwog un o reolwyr pêl-droed gorau Lerpwl, a ddywedodd: ‘Some people believe football is a matter of life and death. I am very disappointed with that attitude. I can assure you it is much, much more important than that.’

Daeth Iestyn yn dipyn o ffrindiau gyda Dave – ond roedd angen dwyn perswâd ar arwr di-ddweud y Sîn Roc Gymraeg, a fu farw’r llynedd, i ddweud y geiriau.

“Pan wnes i fynd i weld Dave, ei gysyniad o oedd dweud rhywbeth eitha tebyg i: ‘Tydi pêl-droed ddim yn bob dim’.

“A wnes i ddweud: ‘Wel Dave, mae pêl-droed yn golygu lot i rhai pobol’.

“A wnaeth o ddweud: ‘Ti’n iawn hefyd Iestyn. It’s good to be adaptable!’

“Ac roedd pêl-droed yn golygu lot i Dave Datblygu. Roedd o’n gwrando ar y pêl-droed ar y radio ac yn big Chelsea fan.”

Mae ‘Waka Waka Cymru’ gan Josgins ar gael i’w ffrydio

Y tad a’r mab a’r ysbryd pêl-droed…

Tra bo sawl un wedi canu ar UN gân Cwpan y Byd eleni, mae yna un Cymro sydd wedi canu ar DDWY!

Yn ogystal â chanu ‘Bricsen Arall’ gyda’i fand Los Blancos, mae Gwyn Rosser yn canu’r llais cefndir ar y gân ‘Ben Davies o Gastell Nedd’.

Ei dad, Neil Rosser, sydd yn canu’r prif lais ar y trac canu gwladaidd ac mae’r tad a’r mab yn galw’i hunain yn Y Southalls.

Ac mae gan Neil Rosser feddwl y byd o Ben Davies, ein hamddiffynnwr gorau.

“Dw i’n ffan enfawr ohono fe, y ffordd mae e’n mynd o gwmpas ei waith a’r ffordd mae e mor ddiymhongar,” meddai wrth golwg360.

“Mae e jest yn hollol broffesiynol, dyw e byth wedi gadael Cymru nac Abertawe lawr. Dw i’n gwybod bod e’n chwarae i Spurs nawr ond mae e jyst yn enghraifft o berson hollol broffesiynol yn fy marn i.

“Dw i’n gobeithio y bydd Gareth Bale gyda ni am ychydig bach yn hirach, ond mae’n rhaid edrych ymlaen a dw i’n meddwl y byddai Ben Davies yn gapten gwych.”

Mae Ben Davies a’r chwaraewyr eraill sy’n dod o ardal Castell-nedd ac yn graddio o academi Abertawe yn “destun balchder” i Neil Rosser.

“Ac wrth gwrs, y rheswm arall yw ei fod e’n dod o Gastell-nedd ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Ystalyfera, sydd nawr yn dod yn dipyn o ysgol ar gyfer pêl-droed,” meddai.

“Mae yna lot o chwaraewyr ifanc yn dod drwy academi Abertawe, er nad ydyn nhw i gyd yn gwneud hi i’r tîm cyntaf.

“Hwnna sy’n cadw Abertawe i fynd, dydyn ni ffaelu fforddio prynu chwaraewyr, felly mae e i gyd yn seiliedig ar yr academi.

“Felly mae e’n destun balchder.”

Beth felly am obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd?

“Dw i’n credu bod y momentwm gyda ni,” meddai Neil Rosser.

“Bydde fe’n wych mynd cam ymhellach na Lloegr, dyna yw’r uchelgais.

“Maen nhw eto wedi cwympo mewn i’r trap o ddechrau meddwl eu bod nhw am fynd drwy’r stages cyntaf yn rhwydd.

“Ond dw i’n meddwl fod Cymru’n hyderus yn dawel bach y gwnawn ni’n well na nhw. Fe fyddai hwnna yn Gwpan y Byd llwyddiannus i ni.”