Wedi hir hir ymaros, daeth yr amser i Gymru gymryd eu lle ar lwyfan Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Mi fyddan nhw yn cychwyn gyda gêm galed yn erbyn yr Unol Daleithiau.
O ran y gemau blaenorol rhwng y ddwy wlad, dim ond dwywaith maen nhw wedi herio’i gilydd – y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 2003 a Chymru yn colli o 2-0, a’r ail waith yn Abertawe yn 2020 a honno’n gorffen yn gyfartal ddi-sgôr.
Un sy’n gobeithio ennill ei le yn nhîm Rob Page ar gyfer y trydydd cyfarfod erioed rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau yn Stadiwm Ahmed bin Ali ddydd Llun (Tachwedd 21), yw Sorba Thomas.
Mae’n mynnu nad oedd yn syrpreis pan gafodd ei alw i garfan bêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd, ond mae’n dweud ei fod e’n gwireddu breuddwyd wrth deithio i Qatar gyda Chymru.
Fe fu’n siarad â Golwg ddechrau’r wythnos wrth i garfan Rob Page ymgynnull yng ngwesty’r Vale cyn mynd ar yr awyren i Qatar.
Roedd taith Sorba Thomas o’r tu allan i’r Gynghrair Bêl-droed gyda Boreham Wood i garfan ryngwladol Cymru’n syndod i rai, ond nid i’r chwaraewr ei hun.
Ar ôl graddio o Academi West Ham, symudodd i garfan ieuenctid Boreham Wood yn 16 oed, gan chwarae i’r prif dîm yn 17 oed. Ar ôl torri trwodd a threulio cyfnod ar fenthyg yn Cheshunt, ymunodd yr asgellwr cefn â Huddersfield yn y Bencampwriaeth fis Ionawr y llynedd. Creodd e gôl yn ei gêm gyntaf yn erbyn Derby, ac fe greodd e un arall yn y gêm ganlynol yn erbyn Fulham er ei fod e hefyd wedi gwneud camgymeriad arweiniodd at gôl i’r gwrthwynebwyr. Rhwydodd e am y tro cyntaf, a chreu dwy arall, yn erbyn Reading fis Awst y llynedd, a chael ei enwi’n Chwaraewr y Mis ar gyfer mis Medi, ac mae e bellach wedi llofnodi cytundeb gyda Huddersfield tan 2026.
“Fyddwn i ddim yn dweud ei bod hi’n syrpreis [derbyn yr alwad i Gwpan y Byd]. Dw i’n credu yn fy ngallu, 100%. Wrth chwarae i Boreham Wood, ro’n i’n gobeithio ryw ddiwrnod y byddwn i’n chwarae dros Gymru. Efallai bod hynny’n uchelgeisiol, ond dw i’n freuddwydiwr, a byddwn i’n hoffi meddwl y bydd y freuddwyd yn dod yn wir rywbryd…. Mae fy holl freuddwydion wedi dod yn wir hyd yn hyn.
“Dydych chi byth yn gwybod beth sy’n gallu digwydd. Efallai eich bod chi’n meddwl eich bod chi [yn y garfan] ac wedyn dydych chi ddim, ond roedd hi’n anhygoel gweld fy enw ac alla i ddim aros i fwrw iddi. Do’n i ddim wir yn edrych ar fy ffôn am sbel fach. Fe ges i wybod wrth i fi a fy mam eistedd i wylio Sky Sports. Roedd yn deimlad anhygoel, ro’n i’n nerfus ond byddwn i wedi bod yn llai nerfus pe bawn i jyst wedi edrych ar fy ffôn!”
Ond beth am obeithion Cymru?
“Mae’n bosib y gallwn ni fynd drwodd o’r grŵp,” meddai Sorba. “Rhaid i ni ganolbwyntio arnom ni ein hunain, rydyn ni am fynd yno a’i fwynhau e a gobeithio achosi niwed. Dydyn ni ddim eisiau ei gadael hi tan y gêm olaf [yn erbyn Lloegr] ond os daw hi i hynny, yna bydd hi wir yn dangos pwy yw tîm rhif un yn y Deyrnas Unedig!
“Ond mae hi bob amser yn bwysig cofio o le ddaethoch chi. Un o’r bobol gyntaf i anfon neges ata’i oedd cadeirydd Boreham Wood, yn dymuno pob lwc i fi. Roedd hynny’n anhygoel. Roedd chwarae fy ngêm gyntaf [dros Gymru] yn anhygoel, ond byddai chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd ymhell tu hwnt i hynny. Alla i jyst ddim aros.”
Carfan yr Unol Daleithiau
Mae safon rhai o’r chwaraewyr yn y garfan y tro hwn yn golygu mai dyn dewr iawn fyddai’n wfftio gobeithion yr Unol Daleithiau o gael twrnament da, a bydd yn rhaid i Gymru fwrw iddi ar unwaith yn y gêm gyntaf er mwyn gosod y seiliau. Does neb yn disgwyl i’r Americanwyr gyflawni gwyrthiau, yn enwedig mewn grŵp lle mai Cymru a Lloegr yw’r ffefrynnau i gymhwyso.
Does ond angen edrych ar y clybiau mae rhai o garfan yr Unol Daleithiau yn chwarae iddyn nhw i weld nad rhyw chwaraewyr di-brofiad ydyn nhw. Mae perfformiadau Ethan Horvath yn y gôl i Luton, sydd wedi cadw wyth llechen lân ac ildio dim ond 19 gôl mewn 19 gêm, yn golygu eu bod nhw’n dynn ar sodlau Abertawe yn y Bencampwriaeth.
Ond ym mhen blaen y cae mae’r gwir seren, wrth gwrs. Mae Christian Pulisic, sy’n werth £58m ac sydd wedi sgorio 21 o goliau mewn 52 o gemau dros ei wlad, yn wynebu dyfodol ansicr yn Chelsea, er ei fod e wedi sgorio’i gôl gyntaf i dîm Graham Potter yn ddiweddar. Dyw e ddim wedi cael cyfnodau hapus gyda Potter – na Thomas Tuchel cyn hynny – felly gallai Cwpan y Byd fod yn gyfle iddo roi ei hun yn ffenest y siop ym mis Ionawr. Gall hynny ond fod yn beryglus i Gymru.
Mae wyneb sy’n gyfarwydd i gefnogwyr Abertawe yng ngharfan yr Unola Daleithiau hefyd. Treuliodd yr amddiffynnwr canol Cameron Carter-Vickers, sy’n enedigol o Loegr, dymor ar fenthyg yn y Liberty yn 2018-19, gan chwarae mewn 33 o gemau. Ffurfiodd bartneriaeth gadarn â Mike van der Hoorn yn y canol yn absenoldeb Joe Rodon. Yn fwyaf diweddar, roedd e’n aelod allweddol o garfan Celtic enillodd Gynghrair yr Alban, gan chwarae mewn 45 o gemau ar fenthyg cyn symud yn barhaol yn yr haf.
Gareth Bale yn erbyn yr Americanwyr
Os cafodd taith Cymru i Gwpan y Byd ei galw’n daith “Hollywoodaidd”, pwy gwell i fod yn brif actor yn erbyn yr Unol Daleithiau na Gareth Bale? Mae capten Cymru’n chwarae i Los Angeles, sydd newydd ennill Cwpan yr MLS am y tro cyntaf erioed yn eu hanes byr. Ar ôl cyfnod mor rhwystredig yn Real Madrid, lle’r oedd rhai yn dadlau nad oedd y cewri Sbaenaidd yn gwerthfawrogi ei ddoniau, mae Bale wedi ymgartrefu’n gyflym yn yr Unol Daleithiau gan sgorio’i gôl gyntaf yn ei ail gêm yn erbyn Sporting Kansas City. Chwaraeodd e 12 o gemau i gyd, ac fe ddaeth i’r cae yn eilydd yn y gemau ail gyfle a sgorio gôl dyngedfennol i unioni’r sgôr a mynd â’r ornest i giciau o’r smotyn cyn i Los Angeles gipio’r tlws.
Tra bydd Bale yn gwybod cryn dipyn am rai o’i wrthwynebwyr, felly, mae’n deg dweud y byddan nhw hefyd yn gwybod digon amdano yntau. Ond y ffactor mwyaf allweddol, yn sicr, fydd ei ffitrwydd a’i allu i aros ar y cae am gyfnodau hir. Ond gellid dweud yr un fath am Aaron Ramsey a Joe Allen hefyd, yn enwedig Allen sydd heb chwarae i Abertawe ers tro. Pan fo’r triawd ar eu gorau, mae Cymru ar eu gorau ac fe fyddan nhw’n allweddol i obeithion Cymru o ddechrau’r twrnament gyda thriphwynt hollbwysig.
“Dw i yn 100% ffit ac yn barod i danio,” meddai Gareth Bale yn y gynhadledd olaf i’r wasg cyn hedfan i Qatar ddechrau’r wythnos.
“Mae hi wedi bod yn fwy anodd yn feddyliol nag yn gorfforol, siŵr o fod. Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd o ran y straeon am chwaraewyr yn cael eu hanafu a’r ffaith bo nhw am golli Cwpan y Byd. Mae hi wedi bod yn anodd i bawb o orfod chwarae dros y penwythnos a gweddïo am beidio cael anaf, achos bod hwn yn achlysur mor fawr. Mae hi wedi bod yn anodd, ond mae hynny’n beth digon cyffredin ac rydyn ni i gyd yma nawr. Dw i’n hollol ffit, yn barod i fynd ac os oes rhaid i fi chwarae tair gêm 90 munud, yna bydda i’n chwarae tair gêm 90 munud.”
Beth, felly, fyddai Cwpan y Byd llwyddiannus i Gymru?
“Mae gan bawb ei farn o ran beth yw llwyddiant,” meddai Gareth Bale. “I ni, mae’n rhaid mynd gyda’r meddylfryd o orfod cymryd pob gêm yn ei thro. Byddwn ni’n ymroi 110%. Mae hi wedi bod yn daith lwyddiannus i ni, a byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i gymhwyso o’r grŵp a mynd mor bell ag y gallwn ni. Does dim ond rhaid i ni wneud beth rydyn ni’n ei wneud orau, ymroi â’n calonnau i’r crys hwn a bydd hynny’n ddigon i ni.”