Cafwyd sylwadau amserol iawn a mawr eu hangen ar wefan golwg360 ddechrau’r wythnos, gan un o gnwd newydd o gynghorwyr sir bywiog gafodd eu hethol ar Gyngor Gwynedd nôl ym mis Mai.

Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yw’r diweddaraf i dynnu sylw at y sefyllfa druenus sydd ganddon ni efo’r gwasanaeth trenau sy’n ein cysylltu gyda Lloegr, os ydan ni’n lwcus, ond ddim efo ni’n gilydd.