Aml iawn dw i wedi mwydro am ein perthynas ryfedd gyda’r cyfryngau cymdeithasol, ond Samuel Beckett ddwedodd hi orau.

VLADIMIR: Well? Shall we go?

ESTRAGON: Yes, let’s go.

[They do not move.]

Mae hi wedi bod yn wythnos ryfedd i fod yn ddinesydd yn y fro ddigidol – a’r rhan fwyaf ohonom yn brysur yn siarad am roi’r gorau iddi, tra’n sgrolio dan swyn i weld y datblygiadau diweddara’.