Mae Golwg wedi dymchwel y wal dalu ar gyfer y golofn ganlynol, i bawb gael blas o arlwy’r cylchgrawn…
Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen
Max Horton and the Western Approaches. Ddechrau’r flwyddyn wnes i chwarae cymeriad o’r enw Admiral Sir Max Horton i gyfres War Gamers ar Netflix. Fo oedd y ‘Commander of Western Approaches’, y dyn a oedd wedi arwain yr ymgyrch yn erbyn llongau tanfor yr Almaen. Mewn ffordd fo wnaeth guro Karl Dönitz a oedd yn rheoli’r u-boats. Cymro, ac Iddew, oedd o, a gafodd ei eni yn Sir Fôn. Roedd yn anhygoel bod Iddew wedi gorchfygu Dönitz, y Natsi mwya’ – fo oedd y Fuhrer ar ôl i Hitler farw. Merched wnaeth ennill y dydd; nhw oedd y brêns y tu ôl i’r holl beth. Nhw wnaeth ddod at Horton a dweud bod yna ffyrdd gwahanol i guro’r u-boats. Mae hi’n stori anhygoel.
Y llyfr a newidiodd fy mywyd
Comedi ydi’r peth sydd wedi dylanwadu arna i, a darganfod llyfrau am Stan Laurel. Fo ydi f’arwr i o ran comedïwr. Ro’n i wrth fy modd yn gwylio Laurel and Hardy. Cafodd Stan Laurel ei fagu yn Ulverston yn Ardal y Llynnoedd, a dw i wedi bod yna yn gweld y cartre’, ac Amgueddfa Laurel and Hardy. Roedd yna LPs i gael, a ro’n i yn gwrando ar y recordiau yma nes eu bod nhw’n gwisgo. Dw i’n dal yn gallu adrodd lot o’r ffilmiau o’r dechrau i’r diwedd. Mi wnes i weithio ar gomedïau efo Cwmni Theatr Cymru, ar Rala Rwdins, a’r gyfres gomedi The Ll Files am 11 mlynedd. Yn bendant, roedd y profiadau o ddarllen am y comedïwr Stan Laurel wedi helpu ar sut i roi gag at ei gilydd. Ro’n i’n darllen lot o lyfrau Spike Milligan hefyd, yn hoff iawn ohono fo.
Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arna i
The Pain and the Privilege gan Ffion Hague. Nid oherwydd y llyfr ond oherwydd y ffaith fy mod i wedi cael fy newis i chwarae Lloyd George ar gyfer y fersiwn gafodd ei gwneud ar Radio 4. Mi wnaeth hynny arwain at sgript a sgrifennais ar y cyd â’r awdur David Britton, o’r enw The Wizard, The Goat, and the Man who Won the War. Dw i wedi bod yn gwneud y sioe yna ers 10 mlynedd rŵan. Rydan ni wedi bod i Boston, Singapore, Paris, de Ffrainc. Mae’r ddrama wedi ei gosod yn Antibes, a dw i wedi cael y pleser o’i pherfformio yn y theatr yno. Roedd hynna’n brofiad a hanner. I fanno yr aeth Lloyd George efo Margaret i ddathlu pen-blwydd priodas hanner can mlynedd, yn 1938. Dramâu ydi fy mhethau i. Rhai fel Spring and Port Wine y gwnes i ei pherfformio yn 2011, ar gyfer tymor rep New Vic Theatre yn Newcastle-under-Lyme. Ro’n i yng nghanol tor-priodas ar y pryd ac mae’r ddrama am ddyn sy’n colli popeth. Roedd hi’n siarad efo fi ar y pryd, ac mi wnaeth hi fy helpu i ddod drwyddo fo.
Y llyfr sy’n hel llwch
Mae yna doman ohonyn nhw! Mae pedwar o lyfrau am Lloyd George – maen nhw’n edrych mor faith, dw i ddim wedi eu dechrau nhw.
Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud
War and Peace, am wn i. Wna i byth wneud.
Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor
Yn bendant, Under Milk Wood. Dw i’n meddwl fy mod i yn ei wybod i gyd ar fy nghof. Rydan ni’n ei ganu efo Côr Meibion Treorci, ac rydan ni’n defnyddio pytiau o’r ddrama yn rhan o’r perfformiad. Dw i’n adrodd pytiau o Under Milk Wood tra bod 70 ohonyn nhw’n hymian canu ‘Troyte’s Chant’ y tu ôl i mi. Y darn ‘Come closer now. Only you can hear the houses sleeping in the streets in the slow deep salt and silent black, bandaged night…’ O, mae o’n grêt.
Dw i’n hoff iawn o nifer o ddramâu dw i wedi eu gwneud dros y blynyddoedd. Fel Torri Gair, cyfieithiad Cymraeg (o ddrama Brian Friel) gan Elan Closs Stephens. Dyna’r ddrama gyntaf Gymraeg wnes i ar ôl gadael coleg. Dw i’n licio mynd yn ôl ati, achos dw i’n cofio’r actorion a oedd ynddi; rhai ohonyn nhw wedi mynd bellach, fel Elfed Lewys. Dw i’n darllen yr ymchwil am fywyd Tom Nefyn weithie, a Chwalfa, Y Dreflan… Dw i newydd gael hen gopi o Rhys Lewis o’r We. Os ydach chi’n gallu cael argraffiad cyntaf, neu ail, maen nhw’n sbesial. Mae’r rhai Lloyd George genna i, ei hunangofiant o. A dw i’n licio hunangofiannau pobol fel Frankie Howard, a Lenny Bruce – dyn o flaen ei amser yn yr Unol Daleithiau.
Y llyfr sydd wastad yn codi gwên
Under Milk Wood, ac mae Spike Milligan wastad yn codi gwên. Mae ganddon ni sgwennwr arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd, Boyd Clack, ac mae ei feddwl o yn gweithio yn yr un ffordd. Dw i wedi bod yn ffodus i weithio efo fo ar Satellite City a High Hopes. Comedi ydi ’mheth i. Dw i ddim yn cael llawer iawn o gyfle i’w wneud o yng Nghymru. Cyfres Rala Rwdins oedd y cyfle gorau a gefais o ran ei wneud o ar deledu, creu gags fel y Dewin Doeth, a chreu llais.
Dw i’n recordio Sam Tân ar hyn o bryd, wedi gwneud dros 50 o benodau newydd, i gwmni Rondo. Pan ddechreuais i wneud o ryw 20 mlynedd nôl – ro’n i’n chwarae pob ci, cath, dafad, pob dim. Dim ond fi a Ceri Tudno oedd yn gwneud y lleisiau. Nawr mae’r cartŵn yn cael ei wneud yn Beijing ac rydan ni’n cael gafael arno fo ar ôl gwneud y fersiwn Saesneg.
Llyfr i’w roi yn anrheg
Llyfr Under Milk Wood, mewn bocs gan y Folio Society.
Fy mhleser (darllen) euog
Rhan o fy ngwaith i ydi [cael fy recordio yn] darllen [llyfrau] rŵan. Dw i wedi darllen tua wyth o lyfrau awdur o Sir Fôn, Stephen Puleston, am hanes y Ditectif Arolygydd Drake. Mae hi’n cymryd wythnosau i ddarllen y llyfrau yn drylwyr a mapio’r cymeriadau allan i gyd. Dros y cyfnod clo wnes i ddechrau go-iawn. Mae darllen llyfr ar gyfer ei ddarllen yn gyhoeddus yn wahanol beth i orwedd yn y gwely yn darllen llyfr cyn mynd i gysgu. Rydach chi’n gorfod mynd drwyddo fo â chrib mân.
Dw i newydd wneud i gwmni Random House yn America, y llyfr The Confidence Men gan Margalit Fox. Mae o’n llyfr anhygoel am fywyd Cymro a dyn o Awstralia wedi cael eu dal mewn gwersyll carcharorion yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn dianc trwy ddefnyddio twyll. Mi wnaethon nhw ddefnyddio ouija board i wneud hynny, a thwyllo’r giards i gredu bod yna ysbrydion yn cysylltu â nhw. Mae o’n werth ei ddarllen. Felly mae darllen llyfrau rŵan wedi troi yn job.
Y llyfr yr hoffwn ei sgrifennu
Tasa gen i ddawn Sebastian Faulks i sgrifennu, mi fyddwn i wrth fy modd yn sgrifennu Birdsong. Mae gen i ddiddordeb yn y cyfnod yna, y Rhyfel Byd Cyntaf, achos bod fy nhaid wedi ymladd yn y rhyfel. Buodd o farw ryw ddeufis cyn i fi gael fy ngeni. Richard oedd ei enw o.
Efo’r pwt nesa’ efo Côr Meibion Treorci, dw i’n darllen barddoniaeth Siegfried Sassoon tra bod y côr yn canu y tu ôl i mi, ‘Look down, and swear by the slain of the War that you’ll never forget’. Dw i eisiau gwneud fersiwn Gymraeg efo geiriau Hedd Wyn, ‘Gwae fi fy myw mewn oes mor dreng…’ a’i roi o allan ar YouTube. Dw i wrthi yn trio trefnu cyfarfod Côr Penrhyn, a chreu noson ar y cyd rhwng y ddau gôr, a’n bod ni’n mynd i Fethesda a nhw’n dod lawr atan ni. Mae’r llechi a’r glo – mae yna debygrwydd o ran hanes. Ac Un Nos Ola Leuad, gobeithio galla i ffeindio darnau yn hwnnw i’w ddarllen tra bod ni’n canu, i ddod â’r holl beth yn fyw.
Richard Elfyn
Un o brif actorion S4C ers y dechrau – o Ffalabalam a Bowen a’i Bartner yn yr 1980au a Rala Rwdins a Hedd Wyn yn y 1990au, i fflyd o gyfresi megis Treflan, Con Passionate, Caerdydd, Byw Celwydd, a 35 Diwrnod. Mae hefyd wedi actio mewn dramâu a ffilmiau mawr Saesneg fel The Crown, Doctor Who, Apostle a The Pact. Mae newydd orffen ffilmio Y Sŵn, ffilm am hanes Gwynfor Evans, lle bydd yn actio Syr Goronwy Daniel. Cafodd ei fagu, yn fab i blismon, ym Mhwllheli. Aeth i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae yn byw yng Nghwmparc, Treorci.