Ar hyd y degawdau bu Sharon Morgan yn un o brif actorion S4C, ac mae hi wedi cadw cofnod rhagorol o’i hanturiaethau gyda’r Sianel Gymraeg sy’n dathlu’r deugain yr wythnos hon…

Roedd y 1980au a’r 1990au yn gyfnod arbennig o brysur i’r actor o Gaerfyrddin, Sharon Morgan, ar deledu ac ar lwyfannau theatr.