Gareth Bale, Sam Warburton, yr athletwr Aled Siôn Davies a’r seiclwr Owain Doull… mae un o gyflwynwyr chwaraeon S4C wedi cyfweld yr enwau mawr i gyd.

Ond roedd Heledd Anna eisoes yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel Gymraeg, a hithau wedi bod yn actio yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd ers pan oedd hi’n wyth oed.

Bellach, pêl-droed a rygbi ydy arbenigedd y gyflwynwraig o Lanrug ger Caernarfon.