Arwres annisgwyl yr wythnos i fi oedd menyw o’r enw Jessee Graham o Tennessee yn yr Unol Daleithiau.

Digwydd dod ar ei thraws y gwnes i, mewn fideo ar twitter.

Ac am bregeth roddodd hi!

Gyda sesiynau stori gan berfformwyr drag yn tyfu’n fwyfwy poblogaidd mewn llawer man yn y byd, roedd grŵp o bwysigion ei thref am eu gwahardd, ynghyd â llyfrau â themâu LHDT+, o’u llyfrgell leol. A hynny ar y sail eu bod yn ddieflig ac yn wrth-Gristnogol…