Mi ddechreuodd Dic Mortimer yn galaru am hen ddathliadau Guto Ffowc; erbyn y diwedd, roedd yn galaru am fethiant y cynllwyn…
“… y rhyfel Protestant v Pabyddion yr oedd Fawkes yn rhan ohono oedd carreg syflaen y Deyrnas Unedig ddychrynllyd a’r holl bethau arswydus y mae wedi eu gorfodi ar y byd ers hynny…” (dicmortimer.com)
Yn yr Alban, rhywbeth tebyg ydi barn Mike Small o edrych ar agweddau’r llywodraeth bresennol at fudwyr a cheiswyr lloches…
“Mae drycsawr ffasgaeth wedi cael ei dderbyn a’i egluro ers blynyddoedd ym Mhrydain. Roedd yna awgrym ohono gan Norman Tebbit yn yr 1980au ac rydym wedi bod ar lwybr llithrig ar i lawr ers hynny, o heddlu mwy milwrol, i ysgolion mwy milwrol i gipio carcharorion yn anghyfreithlon i bledio am i’n milwyr gael bod uwchlaw’r gyfraith. O’r gwylio cudd anhygoel a ddatgelwyd yn ôl yn 2016 gan MI5, MI6 a GCHQ i’r portreadu diddiwedd edlychaidd o bobol gyffredin fel gwehilion y ddaear yn iaith arferol y tabloids dyddiol.” (bellacaledonia.org.uk)
O sôn am fudwyr, efallai fod y cyn-Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, yn eu mysg, wrth adael am Awstralia. Ond mae gan John Dixon gydymdeimlad ag ef yn wyneb yr holl feirniadu am gymryd rhan yn ‘I’m a Celebrity’… o leia’ wrth gymharu hynny â’r diffyg sylw i holl wyliau Boris Johnson…
“Daeth y cynta’ (Hancock) yn destun llawer o gollfarnu gan ei gyn-gydweithwyr, gan golli’r chwip hyd yn oed, tra’r oedd 100 o’r un cydweithwyr… yn croesawu’r llall yn ôl gyda breichiau agored, fel math o fab afradlon. O dderbyn bod eu trosedd sylfaenol yr un peth (gadael eu hetholwyr yn ystod tymor y senedd i chwilio am arian mewn mannau eraill), mae’r ymateb amrywiol yn ymddangos yn od. Efallai, wrth gwrs, nad aeth Matt i’r ysgol iawn… neu fod ei gydweithwyr yn edrych i lawr ar ddyn a dderbyniodd rai miloedd am weithgareddau eitha’ israddol a bod yn well gyda nhw ‘chutzpah’ Boris a gododd $150,000 doler… am araith hanner awr.” (borthlas.blogspot.com)
O sôn am wahaniaeth… beth am bêl-droed a rygbi Cymru. Gan un, mae fideo newydd i fynd gyda’r gân ‘Yma o Hyd’…
“… mae’n rhoi’r argraff fod holl genedl y Cymry wedi ymuno gyda’r hyn oedd, ar y dechrau, yn gân unig. Yn gyffredinol, mae’r fideo hwn mor amlwg wleidyddol ag y gallai fod, yn cysylltu hanes gormes wleidyddol Cymru gyda’i cholledion a’i buddugoliaethau pêl-droed. Mae’n dehongli bod hanes Cymru yn un frwydr yn erbyn anghyfiawnder a thros gydnabyddiaeth, gyda buddugoliaeth yn y pen draw os byddwn ni, y genedl, yn dal ati.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)
Ac, ar y llaw arall, mae gyda chi’r Undeb Rygbi…
“Dyw ‘Hyms and Arias’ ddim bellach yn emynau nac arias, dim ond atgof prin o glasur rygbi sy’n cael ei chofio bellach gan leiafrif… athrylith cynnydd pêl-droed Cymru yw fod y llwyddiant yn dod o’r cydgordio rhwng y corff llywodraethol, y chwaraewyr a’r cefnogwyr i rannu gweledigaeth ynghylch y dyfodol. Does gan rygbi’r undeb yng Nghymru ddim cydgordio o’r fath ac mae’r gwrthdaro clwb/rhanbarth yn parhau i fod yn un o’r achosion gwaetha’ o hunan-niweidio yn hanes chwaraeon Cymru.” (Richard Martin ar nation.cymru)