Fel rheol mi fydda i’n sgwennu hwn tra’n reslo dwy gath, coffi, a’r ysfa i sgrolio trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Ond heddiw dw i’n aelod o’r café society, yn eistedd yn heulwen yr Hydref tu allan i siop leol. Sdim lot o waith, wrth gwrs, yn cael ei wneud – wrth i wynebau cyfarwydd alw heibio a sgwrs sydyn droi’n drafodaeth ddwys. Hanes y clwb llyfrau, barn y dydd ar rywbeth ar S4C, hanes pwy sy’n symud swydd, symud ‘mlaen, neu’n “symud nôl o Lundain”.