Ma’ Mam yn deud fod ’na ddynas deud ffortiwn wedi dweud wrthi hi amdana i flynyddoedd cyn i fi gael fy ngeni, mewn ryw garafan piws yn Ffair Borth. ‘Deud y byswn i’n cael hogyn bach efo llygid glas a gwallt du.’ Ma’ gin Mam lygid brown a gwallt melyn, felly doedd hi’m yn coelio. Ond dyma fi.