Bydd cyfrol iasoer newydd sy’n ail-ddychmygu hen chwedlau gwerin Cymru yn siŵr o godi ofn ar blant, ac mae’r awdur yn disgwyl ambell neges flin gan rieni.

‘Saith o hunllefau i rewi’r gwaed’ a geir yn Sgrech y Creigiau, llyfr gan Elidir Jones sy’n addas i blant dros ddeuddeg oed.

Ceir straeon am ysbrydion, tylwyth teg twyllodrus, ellyllon, bwganod a phob math o greaduriaid rhyfedd eraill yn y