Mae Joanna Morgan wedi ennill gwobrau rhyngwladol ac mae pobol yn taenu ei jam mewn bwytai ym mhedwar ban byd…

Mewn bwthyn anghysbell heb drydan yn un o drefi enwocaf Lloegr y dechreuodd cyfarwyddwr cwmni Radnor Preserves wneud marmalêd.

Ers i Joanna Morgan ddechrau arbrofi ar stôf gampio fechan yn ei chartref ger Stratford-upon-Avon, mae ei marmalêd wedi ennill gwobrau aur yng Ngŵyl Farmalêd y Byd dro ar ôl tro.