Mae gan Ynys ganeuon hyfryd o haenog a melodig ar ei albwm unigol gyntaf… 

Aeth naw mlynedd heibio ers i’r Race Horses ddod i ben, ac mae’r creadigrwydd a oedd mor ganolog i fywyd cerddorol un o aelodau’r band hwnnw wedi dychwelyd.

Yn ystod ei amser yn chwarae i dorfeydd ar draws Cymru, Prydain a thu hwnt gyda’r Race Horses, buodd Dylan Hughes yn recordio pob owns o ysbrydoliaeth ar ei ffôn.