Yn wreiddiol o Ferthyr, mae’r canwr 28 oed yn galw ei hun yn Bendigaydfran.

Ac ar gyfer Calan Gaeaf, mae wedi rhyddhau cân synth-pop o’r enw ‘Blas y Diafol’ gydag Ynyr Roberts o’r band Brigyn…

Sut wnaethoch chi gychwyn gweithio gydag Ynyr Brigyn? 

Llynedd wnes i roi tweet mas yn sôn bo fi eisiau sgrifennu cân Ewro-pop ar gyfer Cân i Gymru.