Mae perchennog un o siopau llyfrau Cymraeg enwocaf Môn newydd drosglwyddo’r awenau ar ôl dros dri deg mlynedd wrth y llyw.

Dylan Morgan fuodd yn rhedeg Cwpwrdd Cornel yn Llangefni ers 1990, ond mae ganddi berchnogion newydd er mwyn dathlu ei phen-blwydd yn 50 fis nesaf.

Dydy Dylan, sydd wedi symud dros y bont i Fethel ger Caernarfon ers ychydig flynyddoedd, ddim yn ymddeol yn llwyr, a bydd yn parhau i weithio fel cyfieithydd.